Rhoi wyneb newydd ar lwybr teithio llesol y Pedwar Loc ar Ddeg
Wedi ei bostio ar Tuesday 18th August 2020
Mae gwaith wedi ei gwblhau ar osod arwyneb newydd ar y llwybr teithio llesol yng Nghanolfan Camlas y Pedwar Loc ar Ddeg yn Nhŷ-du.
Mae'r llwybr, sy'n rhan o Lwybr 47 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, wedi cael arwyneb newydd o ganolfan y gamlas hyd at Fwthyn Pensarn.
Mae rhwystrau newydd hefyd wedi'u gosod ar hyd y mynedfeydd i'r llwybrau tynnu sy'n ei gwneud yn haws i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn gael mynediad.
Mae'r gwaith yn rhan o strategaeth y cyngor i wella'r llwybrau teithio llesol presennol yn ogystal â nodi a gweithredu llwybrau newydd.
Mae'r gwaith hefyd yn cysylltu â nod strategol y Cyngor o gefnogi iechyd a lles dinasyddion, y mae annog teithio llesol yn un o’i brif amcanion.
Dywedodd y Cynghorydd Deb Harvey, yr aelod cabinet dros ddiwylliant a hamdden, "Mae'n wych gweld mor gadarnhaol mae’r ymateb wedi bod i’r gwaith uwchraddio ar y Pedwar Loc ar Ddeg.
"Rydyn ni wedi ymrwymo fel Cyngor i hyrwyddo teithio llesol yn y ddinas, a byddwn yn parhau i uwchraddio llwybrau presennol ochr yn ochr â datblygu rhai newydd er mwyn gwneud teithio llesol yn ddewis hygyrch ledled Casnewydd."
Dywedodd Kate Wickens, Rheolwraig Canolfan Camlas y Pedwar Loc ar Ddeg,
"Mae'r adborth wedi bod yn wych hyd yn hyn. Mae'r lled yn caniatáu digon o le i gerddwyr a beicwyr ac mae gwedd broffesiynol arno, ac mae'r lliw wir yn gweddu i’r lleoliad."
Bydd y cyngor yn cynnal adolygiad cyn bo hir o'r llwybrau MRhI (Map Rhwydwaith Integredig) ac yn gofyn i'r cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol gefnogi'r darn hwn o waith.
Os oes unrhyw un yn dymuno cael ei gynnwys, cysylltwch â ni yn
[email protected].