Newyddion

Y Cyngor yn nodi 75 mlynedd ers Diwrnod VJ

Wedi ei bostio ar Wednesday 12th August 2020

Caiff 75 mlwyddiant Diwrnod VJ (Buddugoliaeth dros Siapan) ei gydnabod ar 15 Awst 2020 yn nodi diwedd yr Ail Ryfel Byd.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd, “Er na fydd digwyddiad swyddogol i nodi’r foment hon yn hanes y DU, mae’r cyngor yn cofio’r degau o filoedd o bersonél gwasanaethau o bob cwr o’r DU a’r Gymanwlad a frwydrodd ac a fu farw yn y rhyfel yn erbyn Siapan, gan gynnwys y rhai a gadwyd yn garcharorion rhyfel gan Siapan.

“Hoffem annog i bobl Casnewydd gymryd saib ar ddydd Sadwrn 15 Awst i gofio a diolch i’r sawl a frwydrodd yn y Dwyrain Pell yn ystod yr ail ryfel byd.”

Ychwanegodd hyrwyddwr lluoedd arfog y cyngor, y Cynghorydd Mark Spencer, “Dylem gofio Diwrnod VJ yn yr un modd â Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop, gan gofio’r sawl a aberthodd eu hunain a’r sawl a oroesodd y cyfnod erchyll hwnnw, cymerwch funud o’ch amser i’w cofio.”

Er bod Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop yn nodi diwedd y rhyfel yn Ewrop ym Mai 1945, mae Diwrnod Buddugoliaeth dros Siapan yn nodi’r diwrnod yr ildiodd Siapan ar 15 Awst 1945, a ddaeth â’r Ail Ryfel Byd i ben.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am waith y cyngor sy'n cefnogi'r lluoedd arfog ar-lein yn  www.newport.gov.uk/armedforces

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.