Adroddiad y Comisiwn Ffiniau
Wedi ei bostio ar Friday 14th August 2020
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn croesawu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.
Yn bwysig, mae ystyriaethau'r Comisiwn wedi ystyried twf presennol a rhagweledig y ddinas wrth argymell strwythur newydd.
Mae'r Cyngor hefyd yn falch bod nifer o sylwadau a wnaed gan yr awdurdod wedi cael eu derbyn, yn enwedig mewn perthynas â rhai ardaloedd o'r ddinas â heriau economaidd-gymdeithasol a phwysigrwydd cefnogaeth ddemocrataidd briodol yn yr ardaloedd hynny.
Bydd y newidiadau a argymhellir i rai wardiau etholiadol hefyd yn sicrhau gwelliant amlwg yn lefel y cydraddoldeb etholiadol ar draws y ddinas - datblygiad cadarnhaol ar gyfer yr etholaeth.
Edrychwn ymlaen at glywed barn y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, a pharatoi ar gyfer gweithredu'r trefniadau newydd yn effeithiol mewn pryd ar gyfer yr etholiadau llywodraeth leol nesaf.