Newyddion

Digwyddiad arbennig i ddathlu pen-blwydd tirnod y ddinas

Wedi ei bostio ar Monday 2nd September 2019

Agorwyd Pont Gludo Casnewydd 113 mlynedd yn ôl fis nesaf a byddwn yn dathlu ei phen-blwydd ag agoriad estynedig.

Cynhelir y digwyddiad hwn ddydd Iau 12 Medi rhwng 5pm a 8.30pm a gall pobl fwynhau taith ar gondola tan 6.30pm neu gerdded ar hyd top y bont tan 8pm.

Bydd y côr cymunedol Cascapella yn perfformio am 7pm a bydd y cwmni pizza Barrio and Lewigi ymysg y rheiny fydd â stondin ar gyfer yr achlysur.

Dan arweiniad Sarah Harman, bydd Cascapella yn perfformio ei Steel Threads, cyfres o ganeuon a gyfansoddodd i ddathlu pen-blwydd y bont yn 100 oed. Dyma fydd y perfformiad cyntaf o'r gyfres gyflawn.

Codir prisiau arferol - £4 i oedolion a £3 i blant - ac nid oes angen archebu,

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Harvey, Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros Ddiwylliant a Hamdden: "Mae hwn yn addo bod yn noson hudol arall ar y bont boblogaidd sydd wedi chwarae rôl mor bwysig ym mywyd y ddinas am fwy na chanrif - yn gyntaf, fel cyswllt trafnidiaeth bwysig ac yn fwy diweddar fel atyniad poblogaidd."

Yn 2018, cafodd y Cyngor £1 miliwn am y rhan gyntaf o gynnig Cronfa Loteri Genedlaethol ar gyfer project i amddiffyn a datblygu'r bont.  Os yw'r ail gam yn llwyddiannus, bydd yn sicrhau £10 miliwn gan y Gronfa Loteri Genedlaethol i greu canolfan ymwelwyr newydd yn ogystal â chynnal ac atgyweirio'r bont.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.