Newyddion

Gall cerddwyr nawr ddefnyddio llwybr mwy diogel dros drac trenau cyflymder uchel

Wedi ei bostio ar Thursday 5th September 2019

Mae llwybr cyhoeddus a oedd yn mynd â cherddwyr dros lwybrau trenau cyflymder uchel dros groesfan reilffordd bellach wedi’i wyro diolch i broject gan Gyngor Dinas Casnewydd a Network Rail.

Mae’r llwybr cerdded ym Maerun wedi’i ymestyn ac mae bellach yn defnyddio pont gyfagos i greu llwybr sy’n llawer mwy diogel i ddefnyddwyr.

Roedd Network Rail, wedi’u cefnogi gan y Swyddfa Rheoliadau Rheilffordd, wedi cynnal ymgyrch genedlaethol i dynnu sylw at beryglon croesfannau rheilffordd trwy’r rhwydwaith rheilffordd.

Y nod oedd dileu’r risg o gerddwyr yn cael eu taro gan drenau cyflymder uchel.

Gan weithio ochr yn ochr â Network Rail a pherchenogion tir lleol, crëwyd y llwybr arall ac, wedi gwaith helaeth, mae’r llwybr cerdded ar agor i’r cyhoedd.

Mae’r llwybr cerdded bellach yn arwain o Whitethorn Way tua’r de ar hyd llwybr cefn gwlad caeedig dymunol cyn croesi’r llinell rheilffordd dros y bont sydd wedi ei gwella.

Wedyn mae’r llwybr yn parhau tuag at yr arfordir gan ymuno â Wentloog Road, sy’n rhoi cyfle i ddefnyddwyr ymuno â Llwybr Arfordir Cymru.

Dywedodd aelod cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros Wasanaethau’r Ddinas, y Cynghorydd Roger Jeavons, fod diogelwch cerddwyr o’r pwys uchaf a bydd y llwybr newydd yn helpu aelodau’r cyhoedd i ddefnyddio’r llwybr cerdded hwn a rhwydwaith ehangach Hawliau Tramwy Cyhoeddus yr ardal.

“Diolch i waith cael Network Rail a chydweithrediad perchenogion tir lleol, rydym wedi gallu creu’r llwybr newydd hwn sy’n mynd â defnyddwyr yn ddiogel ar hyd y bont dros y trac.

“Mae’r project hwn yn golygu nad oes rhaid i’r cyhoedd fentro gyda’r peryglon sy’n gysylltiedig â chroesi llinell rheilffordd cyflymder uchel.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o gwblhau’r project hwn yn llwyddiannus,” meddai’r Cyng. Jeavons.

Dywedodd Peter Caulfield, Rheolwr Projectau Network Rail: “Rydym yn falch ein bod wedi gwella diogelwch i gerddwyr trwy wyro’r hawl dramwy gyhoeddus ym Maerun.

“Hoffen ni ddiolch i Gyngor Dinas Casnewydd a pherchenogion tir lleol am eu cydweithrediad yn ystod y project hwn.

“Mae nifer y digwyddiadau ar groesfannau rheilffordd i gerddwyr yn fwy nag erioed a’n dyletswydd ni yw lleihau’r niferoedd hyn a sicrhau diogelwch gweithwyr, y cyhoedd, teithwyr a chymdogion ar ochr y llinell.”

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.