Byddwch yn barod am hwyl yng Ngŵyl Fwyd Casnewydd
Wedi ei bostio ar Wednesday 25th September 2019
Torfeydd yn nigwyddiad y llynedd
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at un o’r digwyddiadau mwyaf ar galendr Cyngor Dinas Casnewydd – Gŵyl Fwyd Casnewydd fis nesaf.
Bydd mwy na 75 stondin yn cael eu llenwi gydag amrywiaeth enfawr o ddanteithion a diodydd gan gyfranogwyr sy’n ymweld â’r ddinas o bob rhan o Gymru a gweddill y DU ac un o’r pethau gorau am y diwrnod yw’r ffaith bod mynediad YN RHAD AC AM DDIM i ymwelwyr.
Bydd y digwyddiad nid yn unig ar y Stryd Fawr ac ym Marchnad Dan Do Casnewydd ond bydd hefyd ar draws Usk Plaza yn Friars Walk a hyd yn oed ar draws yr afon i Dŷ Coffi Horton.
Rhowch nodyn ar ddydd Sadwrn 5 Hydref yn eich dyddiadur i sicrhau nad ydych yn methu’r digwyddiad gwych hwn fydd o 9am tan 5pm.
Dyma’r nawfed flwyddyn mae’r Cyngor wedi cynnal yr ŵyl sy’n dod yn fwy poblogaidd bob blwyddyn. Bydd arddangosiadau gan gogyddion trwy gydol y diwrnod mewn sawl lleoliad gan gynnwys marchnad Casnewydd, swyddfeydd y Grŵp Pobl ac yn Usk Plaza, Friars Walk gyda ffeinal y cogyddion yn eu harddegau’n cael ei gynnal yn y farchnad am 11am.
Dywedodd arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Debbie Wilcox fod y digwyddiad yn gyfle i drigolion ac ymwelwyr werthfawrogi y gall y ddinas gynnal digwyddiad gwych.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu pobl o bob oed i’r ŵyl sy’n addo bod â rhywbeth at ddant pawb, o fwyd a diodydd blasus fydd yn cael eu gwerthu i adloniant ar y stryd, arddangosiadau cogyddion a chyfle i roi cynnig ar rywbeth newydd.
“Hoffwn i ddiolch hefyd i’n noddwyr Newport Now, y Celtic Manor a Friars Walk am eu cefnogaeth.
“Croesi bysedd y bydd y tywydd yn braf. Gobeithio y caiff deiliaid y stondinau ddiwrnod llwyddiannus iawn ac y caiff ymwelwyr brofiad ardderchog.”
Dywedodd Hywel Jones, noddwr Gŵyl Fwyd Casnewydd, fod y diwrnod yn addo bod yn well nag erioed, gan ddod â busnesau lleol gwych, pobl sy’n dwlu ar fwyd a chyhoedd brwdfrydig ynghyd.
“Dwi’n falch o ddweud bydd cogyddion lleol yn dangos yn union pam bod y sîn bwyd yng Nghasnewydd yn ffynnu. Bydda’ i’n coginio i fyny’r grisiau yn y farchnad ganol dydd felly os byddwch chi yno, dewch i ddweud helo.”, meddai Hywel.
Ac mae’r Cynghorydd William J Routley, Maer Casnewydd, yn edrych ymlaen at fynd i’r Ŵyl Fwyd.
“Dwi’n gwybod bod y digwyddiad hwn yn boblogaidd sy’n denu torfeydd oherwydd yr hyn sydd gan yr ŵyl i’w gynnig i bobl o bob oedran. Edrychaf ymlaen at eich gweld chi i gyd ar y diwrnod”, meddai’r Cyng. Routley.
Mae gan y Cyngor wefan ar gyfer y digwyddiad, am fwy o wybodaeth ewch i www.newportfoodfestival.co.uk