ECO-Sêr yn lansio cynllun cydnabod fflydoedd cyntaf Cymru
Wedi ei bostio ar Thursday 14th November 2019
Y Cynghorydd Ray Truman, chwith, yn lansiad ECO Stars yng Nghasnewydd
Cyngor Dinas Casnewydd yw’r awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i ymuno â’r Cynllun Cydnabod Fflydoedd ECO-Sêr.
Cynllun cydnabod fflydoedd gwirfoddol yw ECO-Sêr sy’n annog ac yn cefnogi gweithredwyr HGVs, faniau a bysus i redeg eu fflydoedd yn fwy effeithlon a gwella safon aer lleol.
Mae uned trafnidiaeth Cyngor Dinas Casnewydd, Newport Norse a Wastesavers wedi cofrestru, ynghyd â Owens Group, Amberon Traffic Management a Jumbo Cruiser.
Cynhaliodd y Cynghorydd Ray Truman, aelod cabinet trwyddedu a rheoleiddio lansiad a chyfle ar gyfer sesiwn lluniau yn y ganolfan ddinesig yng Nghasnewydd i gydnabod ymdrechion y rheiny sydd wedi ymuno â’r cynllun hyd yn hyn ac i nodi manteision cofrestru i gwmnïau lleol.
Dywedodd y Cyng. Truman: “Rydym yn falch o ddod â’r cynllun ECO-Sêr i Gasnewydd a byddwn yn rhannu’r neges o ran y manteision pan fydd gweithredwyr fflyd yn cofrestru i gael help a chyngor ar sut i weithredu’n fwy effeithlon, lleihau defnydd tanwydd ac o ganlyniad lleihau costau.
“Bydd hyn yn helpu ymdrech i Cyngor tuag at Gasnewydd mwy gwyrdd a glân.”
Mae Uned Trafnidiaeth Cyngor Dinas Casnewydd wedi cael sgôr pedair seren gan y cynllun.
Dywedodd Ann Beddoes, rheolwr cynllun ECO-Sêr o Gyngor Bwrdeistref Metropolitan Barnsley: “Mae’n bleser gennyf groesawu Cyngor Dinas Casnewydd fel aelodau o ECO-Sêr, y cynllun cyntaf yng Nghymru. Dymunaf bob llwyddiant iddynt yn eu hymdrech i leihau llygredd aer a gwella ansawdd aer.”