Y Cyngor yn lansio ymgyrch #DywedwchWrthym ar gyfer ysgolion
Wedi ei bostio ar Wednesday 6th November 2019
#DywedwchWrthym caiff posteri
Mae ymgyrch newydd Cyngor Dinas Casnewydd yn cael ei lansio i annog rhieni a gofalwyr i gysylltu â’r ysgol os oes problem yn hytrach na throi at y cyfryngau cymdeithasol a’u defnyddio fel arf fwlio.
Drwy ddefnyddio’r neges #DywedwchWrthym, mae’r cyngor yn gobeithio annog ymateb mwy cadarnhaol yng nghymunedau’r ysgolion.
Caiff posteri i hyrwyddo’r ymgyrch #DywedwchWrthym eu codi mewn ysgolion cyn bo hir a byddant yn cynnwys cyfeiriad e-bost yr ysgol dan sylw er mwyn cynnig pwynt cyswllt uniongyrchol i rieni a gofalwyr.
Dywedodd aelod cabinet y cyngor dros Addysg a Sgiliau, y Cynghorydd Gail Giles fod llawer o agweddau cadarnhaol ar gyfryngau cymdeithasol megis lledaenu newyddion da ar gyfer gweithgareddau a llwyddiannau ysgol, ond y gallai hefyd fod yn ddull o ledaenu anfodlonrwydd.
Dywedodd y Cynghorydd Giles: “Rydym yn gwerthfawrogi y bydd mwyafrif y bobl yn adrodd materion i staff yr ysgol, ond nod yr ymgyrch #dywedwchwrthym yw cyrraedd y bobl hynny nad ydynt yn gwneud hyn a’u hannog i ddod at yr ysgol gyntaf ac adrodd.
“Mae’n brifo a gall weithiau fod yn niweidiol i Benaethiaid a staff gael gwybod bod problem yn bodoli pan fyddant yn clywed amdani drwy’r cyfryngau cymdeithasol.
“Gallai hyn olygu bod y broblem wedi cael ei chwyddo yn anghyfesur, a phan fydd hyn yn digwydd, bydd yn bosib i bobl nad ydynt yn meddu ar wybodaeth am y broblem nac am y bobl sydd ynghlwm, ledu gwybodaeth gamarweiniol.
“Bydd yna frwydr anghyfartal i aros yn gadarnhaol yn wyneb sylwadau mor andwyol.
“Bydd ysgolion eisiau gwybod pan fo problem y gallant helpu gyda hi, felly gallant drafod gyda phawb sy’n ymwneud â’r mater a cheisio datrys problemau yn gwrtais.”
Drwy’r ymgyrch #DywedwchWrthym byddwn hefyd yn annog i newyddion da gael eu lledaenu a bydd ysgolion yn croesawu cyfraniad gan eu cymunedau lleol ar ffurf syniadau.
Yn genedlaethol mae straeon wedi eu dogfennu’n dda iawn am achosion pan ddefnyddiwyd cyfryngau cymdeithasol i danseilio unigolion a grwpiau a’u defnyddio yn arf i fwlio heb roi fawr, os o gwbl, o gyfle i’r targed unioni’r fantol.
Yn ôl y gyfraith, mae’n ofynnol i bob ysgol gael polisi gwrth-fwlio i leihau ac atal bwlio.
Anogir disgyblion i ddweud wrth eu rhieni, gofalwyr neu athrawon os cânt eu bwlio. Mae cyngor ar gael ar wefan y cyngor hefyd, ewch i http://www.newport.gov.uk/cy/Schools-Education/Bullying.aspx