Newyddion

Dirwy i ddyn am werthu fan wersylla anniogel

Wedi ei bostio ar Wednesday 8th May 2019

 Mae dyn busnes o Gasnewydd, a werthodd fan wersylla, neu ‘camper van’ VW ar eBay tra’n honni ei fod yn werthwr preifat, wedi ymddangos yn y llys yn sgil ymchwiliad gan adran safonau masnach Cyngor Dinas Casnewydd.

Daeth y mater i’r amlwg wedi i Neil Smith, o Heather Road, a oedd yn rhedeg busnes yng Nghwmbrân yn addasu faniau gwersylla, ddefnyddio cyfrif personol i werthu’r cerbyd.

Clywodd y llys bod y fan wedi datblygu nifer o namau, a dangosodd archwiliad annibynnol fod batri hamdden y cerbyd wedi ei osod mewn modd anniogel ac nad oedd y gosodiad nwy LPG yn cyrraedd y safonau diogelwch gofynnol.

Ar ben hynny, methodd angorfa gwregys diogelwch y sedd gefn, a osodwyd gan Smith wedi iddo brynu’r fan, y safonau diogelwch hefyd.

Plediodd Smith yn euog yn ddiweddarach i droseddau yn groes i’r Rheoliadau Diogelwch Cynnyrch Cyffredinol 2005 o ran y materion hyn, wedi i’r prynwr gwyno wrth Safonau Masnach Casnewydd.

Tarfwyd ar yr ymchwiliad gan Smith wrth iddo honni mai gwerthiant preifat oedd hwn ac nad oedd yn gysylltiedig â’i fusnes, er i’r prynwr fynd â’r fan i leoliad busnes Smith i’w drwsio.

Roedd y ffaith bod Smith yn gwadu’r honiad yn golygu bod hawliau statudol y prynwr wedi eu cyfyngu. Plediodd Smith yn euog yn ddiweddarach i drosedd yn erbyn Rheoliadau Amddiffyn Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008 am greu’r argraff ffug nad oedd yn fasnachwr.

Derbyniodd Smith ddirwy o £4000 a bu’n rhaid iddo dalu costau gwerth £1,000 yn ogystal â gordal dioddefwyr o £170. Bu rhaid iddo hefyd ad-dalu cost lawn y fan i’r cwsmer, a amcangyfrifwyd yn rhyw £14,300.

Dywedodd y Cynghorydd Ray Truman, yr Aelod Cabinet dros drwyddedu a rheoleiddio: “Roedd hwn yn achos difrifol iawn, a gallai fod wedi peryglu bywydau pobl.

 “Mae ein tîm safonau masnach yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod pobl sy’n gweithio heb feddwl am y gyfraith, a thrwy hynny yn peryglu pobl eraill, yn cael eu dwyn i gyfrif.

 “Gwnaed yr achos hwn yn waeth gan y ffaith bod Mr Smith wedi gwadu ei fod yn fasnachwr. Rwy’n falch bod y llys wedi pwysleisio difrifoldeb yr achos drwy osod dirwy sylweddol.”

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.