Strategaeth deithio gynaliadwy'n bwriadu lleihau llygredd aer
Wedi ei bostio ar Friday 22nd March 2019
Casnewydd gyda'r nos
Mae strategaeth â’r nod o ddod â sawl cam gweithredu ynghyd i leihau llygredd rhwydwaith trafnidiaeth Casnewydd yn cael ei hystyried.
Mae Aelod Cabinet Trwyddedu a Rheoleiddio, y Cynghorydd Ray Truman, wedi cymeradwyo Strategaeth Deithio Gynaliadwy Cyngor Dinas Casnewydd fel bod modd iddo fynd allan i ymgynghoriad cyhoeddus.
Bydd y strategaeth yn edrych ar ffyrdd i annog beicio a cherdded, yn awgrymu cynyddu nifer y pwyntiau gwefru cerbydau trydan ac yn rhoi canllawiau ar geisiadau cynllunio i sicrhau eu bod oll yn chwarae rhan yn y ffordd y gall rhwydwaith trafnidiaeth y ddinas wella iechyd y cyhoedd, lleihau lefelau llygredd a lleihau effaith cynhesu byd-eang.
Mae disgwyl i’r strategaeth fynd allan i ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Mai a bydd ar waith am chwe wythnos. Bydd ffyrdd ar sut i wneud hyn yn cael eu cyhoeddi’n nes at yr amser.
Nid yw’r strategaeth yn bwriadu nodi cynlluniau manwl, ond yn hytrach gweithredu fel man cychwyn i ddatblygu cynlluniau lleol fydd yn ategu ei gilydd.
Bydd cefnogaeth a barn y cyhoedd yn hanfodol er mwyn helpu i lywio’r strategaeth a’r cynlluniau manwl fydd yn dilyn.
O ran ansawdd aer, mae’r Cyngor eisoes wedi datgan 11 o Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer (ARhAA) ledled y ddinas – ardaloedd lle mae’r llygredd yn fwy na’r amcanion ansawdd aer – wedi’i achosi gan ormodedd o draffig ffordd.
Bydd yr ARhAAau hyn hefyd yn rhan o’r strategaeth fel fframwaith i greu cynllun ledled y ddinas i weithio tuag at rwydwaith trafnidiaeth dim allyriadau/allyriadau isel.
Mae traffig ffordd yn arwain at allyriadau carbon deuocsid sy’n nwy tŷ gwydr, sy’n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd.
I leddfu effaith newid yn yr hinsawdd, mae gwyddonwyr wedi nodi bod gennym 12 mlynedd i leihau allyriadau carbon deuocsid.
Gyda hyn mewn golwg, yn hytrach na datblygu Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer yn unig i fodloni deddfwriaeth y llywodraeth, mae’r Cyngor yn bwriadu ymgynghori ar y Strategaeth Deithio Cynaliadwy ehangach.