Casnewydd yn nodi Diwrnod y Lluoedd Arfog ar 1 Gorffennaf
Wedi ei bostio ar Wednesday 26th June 2019
Bydd Casnewydd yn nodi achlysur Diwrnod y Lluoedd Arfog gyda gwasanaeth codi'r faner am 10am ddydd Llun 1 Gorffennaf yn y Ganolfan Ddinesig.
Bydd aelodau presennol y lluoedd arfog, cyn-filwyr a chadetiaid yn bresennol yn y digwyddiad ynghyd ag Arglwydd Raglaw Gwent, y Brigadydd Robert Aitken, Uchel-Siryf Gwent, y Foneddiges Clare Clancy; ac Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Debbie Wilcox.
Bydd y gwasanaeth yn cynnwys darlleniad gan Arglwydd Casnewydd, y Cynghorydd William Routley. Mae croeso i'r cyhoedd fod yn bresennol a dylent gyrraedd erbyn 9.50am.
Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn gyfle i ddangos cefnogaeth i'r lluoedd arfog sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd, teuluoedd y sawl sy'n gwasanaethu, cyn-filwyr a chadetiaid. Mae'r digwyddiad yn fodd i godi calon y milwyr a'u teuluoedd.
Mae Cyngor Casnewydd a lofnododd Gyfamod Cymuned y Lluoedd Arfog yn 2016, yn cydweithio â phartneriaid yn y gwasanaethau cyhoeddus, elusennau a sefydliadau cymunedol eraill i gefnogi cymuned y lluoedd arfog mewn gwahanol ffyrdd.
Yn ddiweddar, ariannodd y Weinyddiaeth Amddiffyn swydd swyddog, a rennir gan gynghorau Casnewydd a Sir Fynwy, i gefnogi pobl ifanc y mae eu rhieni yn y Lluoedd Arfog i ymgartrefu mewn amgylchedd newydd.
Mae Swyddog Cefnogi Addysg Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi yn gallu codi ymwybyddiaeth am anghenion plant y lluoedd arfog ac, os oes angen, gall roi cyngor a chefnogaeth i ysgolion a theuluoedd unigol i'w helpu i ymgartrefu mewn cymuned newydd.
I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i'r lluoedd arfog yng Nghasnewydd ewch i http://www.newport.gov.uk/ên/About-Newport/Armed-forces/Armed-forces.aspx