Casnewydd yn croesawu athletwyr sy'n ysbrydoli i Gemau Trawsblannu Prydain 2019
Wedi ei bostio ar Tuesday 22nd January 2019
Lansiwyd Gemau Trawsblannu Prydain Westfield Health 2019 yn swyddogol heddiw wrth i’r Fflam Rhoddwyr Teuluol gael ei chynnal yng Nghasnewydd.
Bydd y Gemau’n cael eu cynnal rhwng 25 a 28 Gorffennaf 2019. Mae disgwyl i’r digwyddiad ddenu dros 850 o athletwyr sydd wedi cael trawsblaniad a dros 1,500 o gefnogwyr, gan gynnwys teuluoedd sydd wedi rhoi organau, i’r ddinas.
Mae’r Gemau wedi'u trefnu ar ran yr elusen Transplant Sport UK, a'r nod yw codi ymwybyddiaeth o roi organau a chynyddu nifer yr organau sy’n cael eu rhoi.
Bydd Cyngor Casnewydd, Casnewydd Fyw, Llywodraeth Cymru a threfnwyr y Gemau'n gweithio mewn partneriaeth i wneud y digwyddiad yn well nag erioed.
Dywedodd Ann Lloyd CBE, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Chadeirydd Pwyllgor Trefnu Lleol y Gemau: “Mae Cymru wedi arwain y ffordd yn y DU o ran ei hagwedd at roi organau, a chyflwyno caniatâd tybiedig. Fodd bynnag, mae llawer rhagor i’w wneud i godi ymwybyddiaeth o’i bwysigrwydd ac i annog pobl i gael y trafodaethau rheiny – sy’n anodd weithiau – gyda’u hanwyliaid.
“Nid yn unig y mae’r Gemau yn cydnabod trawsblaniad fel rhodd anhygoel – fel y mae’r rhai o bob oedran sy’n ei dderbyn yn gallu byw bywyd iach, actif a normal – ond mae hefyd yn anrhydeddu'r rhoddwyr.”
Dywedodd Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Llywodraeth Cymru, Chris Jones, a oedd yn y lansiad: “Mae’r Gemau’n ddathliad. Mae modd i’r athletwyr yma gystadlu oherwydd caredigrwydd rhoddwyr organau di-ri a’u teuluoedd sydd wedi rhoi anadl einioes.
“Bydd hefyd yn helpu i annog pobl i siarad am eu penderfyniad o ran rhoi organau. Mae sgwrs gyflym yn gallu bod o fudd i bobl Cymru a'r DU. Os yw eich teulu’n gwybod am eich penderfyniad ac yn ei barchu, gallai hynny leihau nifer y bobl sy'n marw wrth ddisgwyl organ addas. Gall drawsnewid bywydau.
“Rydyn ni’n dymuno Gemau llwyddiannus i bawb a fydd yn rhan ohonyn nhw."
Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Mark Whitcutt: “Mae’n anrhydedd gennym groesawu’r Gemau i’n dinas. Mae gan Gasnewydd hanes rhagorol o gynnal digwyddiadau chwaraeon gan gynnwys Cwpan Ryder, y Felothon, pencampwriaethau beicio trac a gwersyllfaoedd hyfforddi Olympaidd a Pharalympaidd – ond bydd y digwyddiad hwn yn rhywbeth arbennig i'r ddinas.
“Mae’r athletwyr hyn yn ysbrydoli a bydd y Gemau'n lledaenu neges sydd mor bwysig.”
Mae Gemau Trawsblannu Prydain Westfield Health yn cynnwys mwy na 25 o ddigwyddiadau chwaraeon a chymdeithasol a chystadlaethau i bobl o bobl gallu, o bysgota i drac a chae, gan gynnwys Ras y Rhoddwyr - digwyddiad cynhwysol a fydd yn agored i’r cyhoedd.
Bydd y Gemau’n ategu ymgyrchoedd sy’n digwydd yn lleol i addysgu a chodi ymwybyddiaeth am roi organau a’r pwysigrwydd o rannu'ch penderfyniad â'ch anwyliaid.
Mae’r noddwyr, Westfield Health, yswirwyr iechyd nid-er-elw blaenllaw, wedi bod yn rhan o'r Gemau ers dros ddegawd.
Dywedodd David Capper, Prif Weithredwr Westfield Health: “Rydyn ni’n falch iawn o fod wedi bod yn rhan o’r Gemau am nifer o flynyddoedd ac yn edrych ymlaen at weld y digwyddiad yn dod i Gymru. Mae’n drist iawn bod tri pherson yn marw bob dydd yn disgwyl am drawsblaniad. Nid oes rhaid edrych yn bell i ddod o hyd i rywun sydd wedi cael ei gyffwrdd gan gyfrannu organau.
“Mae Westfield Health wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth iach i ansawdd bywyd ein cwsmeriaid a’r cymunedau lle maen nhw’n byw ac yn gweithio ynddynt – nid oes ffordd well o wella bywydau na rhoi’r anrheg o fywyd.”
Heddiw, mae Gemau Trawsblannu Prydain yn croesawu mwy na 50 o dimau o ysbytai ledled y DU (ac mae ymwelwyr yn parhau i ddod o dramor) sy’n dod ynghyd i rannu eu profiadau personol, i gystadlu, ac i ddiolch i'r teuluoedd sydd wedi rhoi organau, sy'n dod yn rhan gynyddol o'r Gemau.
Mae Gemau Prydain hefyd yn llwybr i bobl sydd am gael eu dewis i gystadlu yng Ngemau Trawsblannu'r Byd, sy'n digwydd am yr ail flwyddyn. Mae Tîm GB gyda'r mwyaf o faint a'r mwyaf llwyddiannus.