Newyddion

Gallai goleuadau LED arbed arian ac ynni

Wedi ei bostio ar Friday 25th January 2019

Bydd goleuadau stryd ynghyn am ddwy awr ychwanegol bob nos dan gynnig gan Gyngor Dinas Casnewydd i gyflwyno Deuodau Allyrru Golau (Goleuadau LED) ar hyd a lled y ddinas.

Bydd y cynllun hefyd yn arbed arian ac yn galluogi’r Cyngor i leihau ei ddefnydd ar ynni a’i allyriadau carbon gan 6.5 y cant y flwyddyn, cam pwysig tuag at fod yn garbon niwtral erbyn 2030.

Mae’r Cynghorydd Roger Jeavons, yr aelod cabinet dros y Strydlun, yn ystyried adroddiad ar y cynigion LED sydd i’w anfon at aelodau i’w ystyried.

Dros y blynyddoedd diweddar mae’r cyngor wedi gosod golau LED yn lle hen oleuadau nad oedd modd eu trwsio, ac mae 3,262 o’r 18,519 golau stryd sydd yn y ddinas erbyn hyn yn rhai LED.

Yn sgil adroddiad mewnol cynhwysfawr ar oleuadau stryd, dangosodd cost gweithredu stoc goleuadau’r ddinas fod achos busnes cryf dros newid i LED, yn enwedig gan fod costau trydan yn mynd i godi yn y dyfodol a gan fod rhaid lleihau allyriadau carbon.

Llynedd, roedd cost gweithredu goleuadau, arwyddion, signalau a bolardiau strydoedd y ddinas yn £993,960. Wedi blwyddyn o newid i LED gallai’r bil trydan leihau gan dros £500,000. 

Mae’r cynllun hefyd wedi ei nodi fel un sy’n cydymffurfio gydag amcan cynllun corfforaethol y Cyngor i hybu twf economaidd ac adfywio tra hefyd yn amddiffyn yr amgylchedd.

Ac oherwydd yr arbedion, ac effeithlonrwydd goleuadau LED, byddai modd cadw’r goleuadau ynghyn tan ganol nos, yn hytrach na’u diffodd am 10pm, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.