Newyddion

Datganiad Sencom

Wedi ei bostio ar Wednesday 13th February 2019

Yn dilyn trafodaethau â Llywodraeth Cymru, a’r cynnig o gymorth ariannol trwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddatblygu model rhanbarthol mwy cynaliadwy, mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi ymestyn y cyfnod yr hysbysiad tynnu allan o’r gwasanaeth Gwent ar y Cyd hyd at fis Mawrth 2020.

Dwedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd y Cyngor ‘rydym yn glir nad yw’r model presennol yn darparu’r gwasanaeth orau bosibl i bobl ifanc yng Nghasnewydd. Rydym am weithio gyda’r awdurdodau eraill yng Ngwent i adolygu’r gwasanaeth Sencom rhanbarthol a dymunwn gytuno ar fodel o wasanaeth sy’n cwrdd ag anghenion pawb.’

‘Mae angen i ni gael hyd i gydbwysedd rhwng ein dyletswyddau i ddefnyddwyr ein gwasanaethau â’r dyletswydd i sicrhau gwerth am arian i drethdalwyr y cyngor, ac mae hyn yn golygu ni allwn barhau a’r drefn bresennol. Gyda chytundeb yr awdurdodau lleol eraill bydd gennym amser i ystyried sut y gellir gwella neu ail-fodeli’r gwasanaeth fel y bo’n addas i bob defnyddiwr.’

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi ysgrifennu at  awdurdodau eraill Gwent ynglŷn a ymestyn cyfnod yr hysbysiad tynnu allan arfaethedig o’r gwasanaeth Sencom rhanbarthol hyd at fis Mawrth 2020. 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.