Newyddion

Dirwy o £9,000 i westy am achosi gwenwyn bwyd ar Ddydd Nadolig

Wedi ei bostio ar Tuesday 19th February 2019

Mae perchennog gwesty lle cafodd cwsmeriaid wenwyn bwyd ar ôl bwyta pryd o fwyd ar Ddydd Nadolig wedi ymddangos yn y llys, ynghyd â chyn-reolwr bwyty’r gwesty.

Plediodd Dr Steve Hodgetts, Perchennog y Milton Hotel (Llanwern) Cyf a chyn-reolwr y bwyty Karen Evans yn euog o sawl cyhuddiad yn yr achos yn Llys Ynadon Casnewydd ar 8 Chwefror, a rhoddwyd dirwy o £9,000 iddynt.

Clywodd y llys bod y gwenwyn bwyd wedi effeithio ar dros 20 o bobl, yn cynnwys plentyn tair blwydd oed a fu’n sâl gyda gwenwyn bwyd Clostridium pefringens.

Roedd y pryd wedi ei oeri a’i aildwymo’n anghywir ac fe berodd hyn i’r bacteria sy’n aml yn achosi i bobl chwydu a bod â dolur rhydd i dyfu.

Roedd y rhai yr effeithiwyd arnyn nhw wedi bwyta’r pryd ar Ddydd Nadolig 2017 ac wedi dechrau dangos symptomau’n hwyrach yn gynnar ar fore Gŵyl San Steffan. Parodd y symptomau ryw 24 awr.

Ymwelodd swyddogion â’r bwyty ar 27 Rhagfyr 2017 wedi i’r perchennog hysbysu’r Asiantaeth Safonau Bwyd am y digwyddiad.

Aed â samplau o’r bwyd i’w dadansoddi, ac fe brofwyd cyswllt rhwng y salwch a’r pryd a gafodd ei fwyta yn y gwesty Ddydd Nadolig.

Plediodd Dr Hodges a Ms Evans yn euog o:

*Cyflwyno bwyd a oedd yn anaddas ac yn andwyol i iechyd

*Methu â diogelu bwyd rhag cael ei halogi

*Methu ag oeri’r cig yn iawn wedi ei goginio a

*Methu a gweithredu a chynnal gweithdrefnau diogelwch bwyd.

Cyhuddwyd y cwmni hefyd o fethu â meddu ar drwydded briodol i weini alcohol ar y safle ac o fethu â chofrestri’r busnes gyda’r awdurdod bwyd.

Plediodd y cwmni a’r unigolion yn euog i bob cyhuddiad a chytunon nhw i dalu costau cyfreithiol llawn Cyngor Dinas Casnewydd.

Wrth eu dedfrydu, dywedodd y Barnwr Khan: “Mae’r diffinyddion wedi methu â chydymffurfio gyda gofynion sylfaenol a synnwyr cyffredin o ran oeri a chynhesu bwyd ac roedd yr hyn a ddigwyddodd yn siŵr o ddigwydd felly.”

Daeth i’r casgliad bod y diffinyddion “allan o’u dyfnder” yn rhedeg y busnes.

Mae’r safle wedi derbyn Sgôr Hylendid Bwyd i BEDWAR ers mynd i’r afael â’r problemau a gododd yn 2017.

Dywedodd y Cynghorydd Ray Truman, yr Aelod Cabinet dros Drwyddedu a Rheoleiddio: “Mae’n rhaid i swyddogion Iechyd yr Amgylchedd rhoi camau gweithredu ar waith yn aml ar sail tebygolrwydd salwch oherwydd gwahanol sefyllfaoedd. Yn yr achos hwn yn anffodus, roedd pobl yn sâl, a hynny arweiniodd at yr ymchwiliad.

“Roedd hi’n ffodus na fu’r rhai a fu’n chwydu ac yn dioddef o’r dolur rhydd yn fwy sâl, ac na fu neb farw. Gallai hynny fod wedi digwydd petai rywun â chyflwr iechyd arall yn barod wedi bwyta’r bwyd. “Dylai’r achos hwn anfon neges glir nad peth bach yw cynnal busnes bwyd ac y dylai busnesau ddilyn cyngor a chyfarwyddiadau’r cyngor.”

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.