Newyddion

Helpu pobl ddigartref a phobl sy'n cysgu ar y stryd

Wedi ei bostio ar Tuesday 19th February 2019

Yn ddiweddar, mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi mabwysiadu Strategaeth Ddigartrefedd Gwent yn dilyn adolygiad trylwyr ar y mater yn y ddinas a phedair ardal awdurdod cyfagos.

Mae'r dull partneriaeth hwn yn defnyddio sgiliau a gwybodaeth swyddogion allweddol er mwyn sicrhau dull cydgysylltiedig o fynd i'r afael â mater hynod gymhleth.

Mae gan gynghorau Casnewydd, Torfaen, Sir Fynwy, Caerffili a Blaenau Gwent weledigaeth gyffredin - bod gan bawb yn y rhanbarth gartref i fyw ynddo ac, os oes angen, y cymorth cywir i fyw bywyd boddhaus.

Mae'r strategaeth yn nodi pedair blaenoriaeth:

  • Helpu i wella mynediad i dai addas a fforddiadwy
  • Cynnig cyngor a chymorth cyflym ac effeithiol, gan weithio gyda phartneriaid i helpu pobl sy'n agored i niwed
  • Lleihau digartrefedd a'i atal drwy ymyrraeth gynnar
  • Sicrhau gwasanaethau digartref teg, cyfartal ac sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn

Mae tîm anghenion tai Cyngor Dinas Casnewydd yn gweithio'n galed i helpu teuluoedd ac unigolion sy'n eu cael eu hunain mewn amgylchiadau mor anodd.

Cynorthwyir pobl sy'n ddigartref ac sy'n mynd at y Cyngor ar unwaith i ddod o hyd i lety argyfwng ac yna eu cynorthwyo gydag atebion tymor hirach.

Mae digartrefedd ar gynnydd ledled y wlad ac mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gweithio gyda phartneriaid i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau i bobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, y rhai sy'n ddigartref a'r rhai sy'n cysgu ar y stryd.

Dim ond un agwedd ar ddigartrefedd yw cysgu ar y stryd a gall y rhesymau dros gysgu ar y strydoedd fod yn gymhleth ond mae'r niferoedd yn eithaf bach yng nghyd-destun y rhai y mae angen cymorth arnynt gyda materion tai.

Gan weithio gyda phartneriaid, mae gan y cyngor nifer o weithdrefnau effeithiol â'r nod o atal a lliniaru digartrefedd ledled y ddinas ac mae pobl sy'n cysgu ar y stryd yn rhan o'r gwaith hwn. 

Mae Cyngor Dinas Casnewydd, Heddlu Gwent ac elusennau arbenigol megis The Wallich ac Eden Gate yn cydweithio'n agos gan eu bod yn cydnabod bod rhai pobl sy'n agored iawn i niwed yn ein cymdeithas. Ac mae angen cefnogaeth, help ymarferol a chymorth penodol er mwyn torri'r cylch o ddigartrefedd.

Fodd bynnag, mae'r gwaith hwn yn dibynnu ar ymgysylltu ag unigolion, rhai ohonynt ag anghenion cymorth lluosog, ond ni fydd hynny'n ein rhwystro rhag parhau i estyn allan i gynnig cymorth a chyngor.

Er enghraifft, mae'r Cyngor wedi gweithio mewn partneriaeth ag Eden Gate ar waith adnewyddu helaeth ar adeiladau a fydd yn golygu y gellir darparu lloches nos argyfwng drwy gydol y flwyddyn. Bydd y gwasanaeth hwn, fel y rhan fwyaf o lochesi nos, yn dibynnu ar gefnogaeth gwirfoddolwyr a byddem yn annog unrhyw un sydd am gymryd rhan i gysylltu ag Eden Gate.

Mae'r Cyngor hefyd yn gweithio gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig megis Newport City Homes a'r Grŵp Pobl, sy'n creu cartrefi newydd i fodloni'r galw am dai fforddiadwy yn y ddinas.

Cydnabyddir y cynnydd yn y galw am dai cymdeithasol ac mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad ar y cyflenwad o dai fforddiadwy yng Nghymru a dylid adrodd arno yn y gwanwyn.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.