Cynllun gwella ar gyfer llwybr cerdded a seiclo poblogaidd
Wedi ei bostio ar Monday 23rd December 2019
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn mynd i roi cynllun gwella ar waith ar gyfer llwybr cerdded a seiclo poblogaidd yng Nghoed Melyn, yn rhan o’i addewid Teithio Llesol.
Mae disgwyl i’r gwaith ddechrau’n gynnar y flwyddyn nesaf yn sgil cwynion gan ddefnyddwyr am gyflwr y llwybr.
Nodwyd ef hefyd yn llwybr seiclo posibl oddi ar y ffordd fawr o Risca Road, drwy’r tir agored, ac i lawr i Western Avenue. Mae llwybr cerdded Dyffryn Sirhywi, wrth iddo groesi Casnewydd, hefyd yn rhan o’r llwybr hwn.
Mae cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi ei sicrhau i roi gwelliannau ar waith a chreu llwybr Teithio Llesol, gwell gydag arwyneb lletach, mwy gwastad a fydd o fudd i’r cyhoedd, waeth beth eu hableddau.
Bydd wyneb y llwybr newydd yn cynnwys nodweddion arbennig i ddiogelu gwreiddiau’r coed gerllaw.
Disgwylir i’r gwaith ar y llwybr ddechrau yn gynnar yn Ionawr 2020, a’i gwblhau erbyn diwedd Mawrth 2020.
Ar yr adegau pan fydd angen cau llwybrau, bydd arwyddion dargyfeirio’n cael eu gosod ar y safle i gyfeirio’r cyhoedd ar hyd llwybr amgen.
Bydd mynediad at y cyfleusterau chwarae’n parhau yn ystod y gwaith, ond efallai y bydd angen rhoi cyfyngiadau ar waith o dro i dro.