Digwyddiad iechyd a llesiant - Pillgwenlli
Wedi ei bostio ar Tuesday 17th December 2019
Dydd Llun 20 Ionawr 2020
1-6pm
Canolfan y Mileniwm Pilgwenlli, Courtybella Terrace, Pilgwenlli, Casnewydd.
Garech chi wybod am weithgareddau a chymorth sydd ar gael yn eich ardal leol? Chwilio am syniadau i wella eich iechyd a’ch llesiant? Awydd cyngor ar faterion ariannol?
Mae Cyngor Casnewydd, mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, yn cynnal digwyddiad cymunedol lle gallwch gyrchu ystod eang o sefydliadau sydd yn gallu gwella eich iechyd a’ch llesiant.
Fe fydd sesiynau blasu, gweithdai rhyngweithiol a chyfoeth o wybodaeth ar ystod o bynciau gan gynnwys cymorth iechyd meddwl, cymorth ariannol ac ar gamblo, rheoli pwysau a lleihau straen.
Gallwch gael gwiriad iechyd am ddim, rhoi cynnig ar ioga a gweithgareddau corfforol eraill, ynghyd â dysgu mwy am fyfyrio, gwellhad drwy egni a llawer mwy.
Galwch i fewn unrhyw adeg rhwng 1-6pm ar Ddydd Llun 20 Ionawr, am sgwrs anffurfiol â stondinwyr, staff a phartneriaid yn Hyb Canolog Casnewydd.