Newyddion

Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref i agor yn hwyr un noson yr wythnos

Wedi ei bostio ar Wednesday 7th August 2019

Bydd preswylwyr yn gallu ymweld â Chanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref (CAGC) wedi’r oriau arferol ar un diwrnod yr wythnos ar ôl i Gyngor Dinas Casnewydd gytuno i’r newid.

O ddydd Iau 15 Awst – a bob Dydd Iau tan fis Tachwedd – bydd y safle ar Docks Way yn agor tan 6pm yn hytrach na 4.30pm.

A bydd newid arall yn cael e gyflwyno gyda’r safle hefyd yn agor ar Ŵyl y Banc fis Awst (26 Awst) o 7.30am tan 4.30pm.

Dwedodd y Cynghorydd Roger Jeavons, aelod cabinet y cyngor dros wasanaethau’r ddinas, fod y newidiadau yn cael eu cyflwyno yn dilyn ceisiadau gan breswylwyr.

“Fe wyddon ni fod galw ar i‘r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref agor yn hwyrach, yn enwedig ym misoedd yr haf, ac rydym wedi gwrando ar geisiadau preswylwyr er mwyn gallu cyflwyno hyn.

“Rydym hefyd yn falch o allu agor y safle dros Ŵyl Banc mis Awst hefyd.

“Rydym yn bwriadu cadw’r agor hwyr yn ystod yr wythnos i gydredeg â chasgliadau gwastraff gerddi fel y byddan nhw yn dod i ben gyda’i gilydd ym mis Tachwedd pan fydd y galw i ddefnyddio’r safle yn lleihau wrth iddi dywyllu gyda’r nos,” meddai’r Cyng. Jeavons.

Mae’r cyngor hefyd yn ystyried agor dros wyliau banc y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd gyda chyhoeddiad i gael ei wneud yn nes at yr amser hwnnw. Mae cynlluniau ar y gweill hefyd i agor ail CAGC.

Oriau arferol CAGC yw 7.30am tan 4.30pm gyda’r cerbyd olaf yn cael mynediad 15 munud cyn yr amser cau.

Mae gwybodaeth i’w chael ar wefan y cyngor Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.