Newyddion

Llyfrgell i gynnal menter newydd i blant ag Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig

Wedi ei bostio ar Tuesday 4th September 2018

Bydd menter newydd i roi mynediad i lyfrgelloedd i blant ag Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig neu anawsterau dysgu synhwyraidd a’u teuluoedd yn cael ei chynnal yn llyfrgell ganolog Casnewydd unwaith y mis.

Bydd y sesiynau’n para awr a hanner ac fe’u cynhelir unwaith y mis y tu allan i oriau llyfrgell arferol a’r nod yw bod fel ymweliad arferol i’r llyfrgell – ond yn fwy heddychlon.

Mae’r Sesiynau Ystyriol o Awtistiaeth yn addas i blant o bob oedran ddod i’r llyfrgell â’u teuluoedd i ddewis llyfr, mynd ar gyfrifiadur neu fynd i sesiwn odli a chrefftau.

Bydd hefyd gyfle i blant hŷn fynd i le arbennig, sesiynau creu a chwarae a chreu cod sylfaenol i greadigaethau Lego. Bydd y sesiynau hyn ar ddyddiadau penodol a rhaid cadw lle.

Bydd y sesiwn gyntaf ddydd Llun 17 Medi o 3.3.30pm i 5pm ond ni fydd modd ymuno ar ôl 4pm.

Dilynir hyn gan sesiynau bob trydydd dydd Llun y mis.

Dywedodd y Cynghorydd Deb Harvey, Aelod Cabinet y cyngor dros Ddiwylliant a Hamdden, y bydd y sesiynau newydd yn rhoi saib i bobl ag awtistiaeth a’u teuluoedd.

“Gobeithio bydd y sesiynau hyn yn dod yn rheolaidd, a chroesawn adborth gan unrhyw ddefnyddwyr i weld a allwn newid neu wella’r profiad llyfrgelloedd i’r defnyddwyr hyn.

“Credaf fod hwn yn syniad gwych ac mae’r sesiwn yn cael ei chynnal ar ddiwrnod pan fo’r llyfrgell ar gau i’r cyhoedd fel y gall ein hymwelwyr weld beth sy’n cael ei gynnig a chael bach o heddwch ac ymlacio â llyfr,” meddai’r Cyng Harvey.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.