Newyddion

Deiseb Guangxi

Wedi ei bostio ar Tuesday 11th September 2018

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cydnabod ac yn rhannu'r pryderon ynghylch creulondeb tuag anifeiliaid ac yn gwneud ymholiadau uniongyrchol, er gwaethaf y ffaith nad yw'r trefniant gefeillio gyda'r dalaith wedi bod yn weithredol ers degawd mwyach.

Fodd bynnag, ac yn anffodus, nid yw’r fath arferion yn unigryw i un dalaith na gwlad hyd yn oed ac felly mae hwn yn fater sy’n gysylltiedig â pholisi tramor y mae gofyn i Lywodraeth y DU ei ystyried. Byddwn hefyd yn mynegi ein pryderon a’n gwrthwynebiad ehangach ar y lefel hon a chyda Llywodraeth Cymru.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.