Newyddion

Diolch i'n noddwyr

Wedi ei bostio ar Thursday 4th October 2018

Bydd Gŵyl Fwyd Casnewydd Tiny Rebel yn cael ei chynnal yn y ddinas ddydd Sadwrn 6 Hydref, a chaiff ei chynnal unwaith eto gan Gyngor Dinas Casnewydd.

Ond ni fyddai’r digwyddiad yn bosibl heb gymorth ein noddwyr, ac am y tair blynedd ddiwethaf, gallwn ddiolch i’n bragwyr lleol poblogaidd, Tiny Rebel, am gefnogi ein digwyddiad poblogaidd.

Mae’r bragwyr yn ymuno â’n noddwyr eraill, sef Casnewydd Nawr, gwesty’r Celtic Manor a chanolfan siopa Friars Walk.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Debbie Wilcox: “Dyma’r wythfed flwyddyn y mae’r Cyngor wedi trefnu’r ŵyl hon ac mae'n bleser gennyf ddweud ei bod wedi dod yn fwyfwy poblogaidd gan ddenu miloedd o ymwelwyr ar y diwrnod.

“Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i’n prif noddwyr, y bragwyr Tiny Rebel sydd wedi ennill llu o wobrau, ynghyd â’n noddwyr eraill sef Casnewydd Nawr, gwesty’r Celtic Manor a chanolfan siopa Friars Walk.

“Mae’r digwyddiad hwn yn ymdrech tîm go iawn a gall ymwelwyr dystio i hwnnw eu hunain ar y diwrnod wrth ymweld â’r Stryd Fawr a Marchnad Dan Do Casnewydd, yna mynd am dro i swyddfeydd Grŵp Pobl am ragor o arddangosfeydd gan gogyddion a Sgwâr Wysg yn Friars Walk.”

Dywedodd Brad o fragwyr Tiny Rebel: "Mae Tiny Rebel yn hynod falch o noddi Gŵyl Bwyd a Diod Casnewydd am y drydedd flwyddyn. Unwaith eto, edrychwn ymlaen yn fawr at weld y cynnyrch arbennig ar gynnig o Gasnewydd a’r ardal gyfagos. Mae’n wych i Gasnewydd fel dinas ac yn wych i dyfu’r diwydiant bwyd a diod yn yr ardal.”

Dywedodd Vanessa Russel, Cyfarwyddwr Marchnata Gwesty’r Celtic Manor: “Rydym yn falch o noddi Gŵyl Bwyd a Diod Casnewydd unwaith eto ac rydym wrth ein boddau o’i gweld yn mynd o nerth i nerth yn y blynyddoedd rydym wedi bod yn rhan ohoni. Rydym yn arbennig o falch o gefnogi a helpu i feirniadu’r gystadleuaeth TeenChef lle mae’r safon bob tro’n uchel. Gobeithiwn y bydd cyfleoedd fel hyn yn ennyn y genhedlaeth nesaf o gogyddion lleol.”

Dywedodd Kevin Ward, Rheolwr Ardal Gwella Busnes Casnewydd Nawr: “Fel y sefydliad sy’n cynrychioli mwy na 400 o fusnesau canol dinas, mae’r Adran Gwella Busnes (AGB) yn falch o gefnogi’r Ŵyl Bwyd a Diod unwaith eto. Mae’r digwyddiad yn dod â miloedd o bobl ynghyd yng nghanol y ddinas ac mae’r ADG yn cefnogi unrhyw fenter sy’n cynyddu nifer yr ymwelwyr i fasnachwyr.

“Mae Parth Casnewydd Nawr wedi’i leoli ar y Stryd Fawr, ar lawr cyntaf y farchnad ac yn adeilad Pobl, ac mae’n lleoliad ar gyfer digwyddiadau megis arddangosfeydd gan gogyddion a chystadleuaeth TeenChef, a noddir gan westy’r Celtic Manor.

“Edrychwn ymlaen at ŵyl fwyd wych arall.”

Dywedodd Simon Pullen, Rheolwr y Ganolfan Friars Walk: "Mae Gŵyl Fwyd Flynyddol Casnewydd wastad yn creu awyrgylch gwych yng nghanol y ddinas, ac rydym yn falch iawn ein bod yn gallu tynnu sylw at gogyddion gwych rhai o'n tai bwyta poblogaidd. "Mae'r digwyddiad yn rhoi cyfle i'r cogyddion lleol hyn adael eu ceginau a dangos sut maen nhw'n creu rhai o'u hoff brydau."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.