Newyddion

Cyngor y Ddinas yn gwneud cais i gymryd yr awenau o ran pwerau gorfodi parcio

Wedi ei bostio ar Tuesday 2nd October 2018

Cyngor y Ddinas yn gwneud cais i gymryd yr awenau o ran pwerau gorfodi parcio.

Mae cais ffurfiol i drosglwyddo pwerau gorfodi parcio i Gyngor Dinas Casnewydd wedi'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

Mae'r cais yn dilyn cadarnhau bwriad Heddlu Gwent i roi'r gorau i orfodi parcio a phenderfyniad y cyngor ym mis Ionawr i wneud cais am bwerau gorfodi sifil yn y ddinas.

Gyda'r broses ddeddfwriaethol yn debygol o gymryd hyd at chwe mis, wedi'i gyfuno â'r angen i sefydlu gwasanaeth newydd yn y cyngor, rhagwelir y bydd y cyngor yn cymryd yr awenau ar 1 Gorffennaf 2019.

Dywedodd y Cynghorydd Roger Jeavons, Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros y Strydlun:  "Gyda'r heddlu yn rhoi'r orau i'w pwerau gorfodi, ac anfodlonrwydd parhaus yn cael ei fynegi gan drigolion a busnesau ledled y ddinas ynghylch y cynnydd yn nifer yr achosion o barcio anghyfreithlon, mae cyflwyno pwerau gorfodi parcio sifil yn cael ei groesawu ledled y ddinas.

"O dan y pwerau newydd, bydd y cyngor yn rhoi 12 swyddog gorfodi ar waith ledled y ddinas gyda'r awdurdod i gyflwyno Hysbysiadau Tâl Cosb am dramgwyddau parcio."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.