Gardd Goffa Newydd
Wedi ei bostio ar Friday 2nd November 2018
Cynhelir seremoni fer yn dathlu agoriad yr Ardd Goffa draddodiadol yng Nghasnewydd ddydd Llun 5 Tachwedd.
Bydd yr ardd fach, sydd wedi’i lleoli ar yr ardal laswellt ger Cofadail Casnewydd, yn cynnwys croesau bychain yn cynrychioli'r Lluoedd Arfog o bob rhan o’r rhanbarth.
Lleng Brydeinig Frenhinol Casnewydd fydd yn cydlynu’r digwyddiad sy’n dechrau am 10.45 a bydd Caplan y Lleng Keith Beardmore yn gweinyddu’r seremoni a fynychir gan gludwyr, cyn-filwyr, aelodau’r LlBF ac urddasolion lleol.
Bydd Maer Casnewydd y Cynghorydd Malcolm Linton yn gosod y groes gyntaf.
Gwahoddir aelodau’r cyhoedd i fynychu’r seremoni.