Newyddion

Parêd a Gwasanaeth Dydd y Cofio Blynyddol

Wedi ei bostio ar Tuesday 6th November 2018
cenotaph newport resized

Nghofadail Casnewydd

Bydd y Parêd a Gwasanaeth Dydd y Cofio blynyddol yn digwydd ddydd Sul, 11 Tachwedd yng nghanol dinas Casnewydd.

Bydd Arweinydd y Parêd y Cadlywydd RSM Mathew Years o Gatrawd 104 y Magnelwyr Brenhinol yn galw ar gyfranogwyr am 10.35am ar dop y Stryd Fawr.

Bydd Brigâd y Bechgyn yn arwain y parêd, gyda’r Maer a’r Faeres, y Cynghorydd Malcolm Lintoln a Mrs Sharon Linton yn dilyn wedi’u harwain gan ddau fyrllysgwr o Gadlanciau Morol Casnewydd.

Bydd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Debbie Wilcox, ac Arweinydd yr Wrthblaid, y Cynghorydd Matthew Evans, yn ymuno â’r Arglwydd Raglaw, Brigadydd Robert Aitken, a’r Uchel Siryf Mrs Sharon Linnard, ynghyd â swyddogion y cyngor a chynghorwyr eraill fydd yn ymuno â’r parêd gyda grwpiau ieuenctid a chymdeithasau eraill.

Bydd y gwasanaeth, a arweinir gan y Parchedig Canon Stephen James, yn cael ei gynnal yng Nghofadail Casnewydd am 10.58am, gyda’r gynau’n tanio am 11am i nodi dechrau’r ddau funud o ddistawrwydd.

Ar ôl y ddau funud o ddistawrwydd, bydd y seremoni gosod plethdorchau’n cael ei harwain gan yr Arglwydd Raglaw, Brigadydd Robert Aitken ynghyd â’r Maer, yr Uchel Siryf, cynrychiolwyr o’r Lleng Brydeinig Frenhinol a chyn-filwyr eraill.

Yna, bydd arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Wilcox, arweinydd yr wrthblaid, y Cynghorydd Evans, Jessica Morden AS a’r ACau Jane Bryant, John Griffiths a Mohammed Asghar ynghyd â chynrychiolwyr o’r Llynges Frenhinol, y Fyddin, y Llu Awyr Brenhinol, y Llynges Fasnachol, yr heddlu, Gwasanaeth Tân De Cymru, Ambiwlans De Cymru ynghyd â’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu a chynrychiolwyr o sefydliadau eraill yn mynychu.

Ar ôl y gwasanaeth bydd yr Arglwydd Raglaw, y Maer, SG Catrawd 104, yr Uchel Siryf a phwysigion yn cerdded at yr esgynlawr i dderbyn saliwt y parêd wrth iddo gerdded heibio.

Bydd y parêd yn symud ymlaen o’r Stryd Fawr.

Cyngor Dinas Casnewydd fydd yn cynnal y digwyddiad, a rhybuddir y bydd ffyrdd ar gau o 7am tan hanner dydd ar ddiwrnod y parêd.

Ymhlith y ffyrdd a fydd ar gau mae’r Stryd Fawr, Upper Dock Street (o Skinner Street i gylchfan yr Old Green), cylchfan Old Green, y ffordd ymadael at gylchfan Old Green o Kingsway, y ffordd ymadael at gylchfan Old Green o Wyndham Street, Town Bridge (yn y ddau gyfeiriad), Clarence Place (y ddau gyfeiriad), Caerleon Road o Clarence Place at Church Road, Chepstow Road o Clarence Place i Cedar Road, Corporation Road o Clarence Place i St Vincent Road ac East Usk Road o Clarence Place at Tregare Street.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.