Cyllid grant i helpu i wella llwybrau cerdded a seiclo
Wedi ei bostio ar Thursday 10th May 2018
Mae llwybrau cerdded a seiclo ledled y ddinas yn mynd i gael eu gwella a’u hymestyn gan Gyngor Dinas Casnewydd.
Bydd y gwelliannau i’r rhwydwaith yn golygu y bydd gan drigolion y ddinas fwy o ddewis o lwybrau a chyfleoedd ychwanegol i fod yn actif.
Gall y projectau fynd yn eu blaen diolch i grantiau gwerth £687,000 gan Lywodraeth Cymru i wella’r Rhwydwaith Teithio Actif yn y ddinas. Daw’r cyllid o’r Gronfa Trafnidiaeth Leol, Cronfa’r Rhwydwaith Trafnidiaeth Lleol, Llwybrau Diogel yn y Gymuned a chyllid Diogelwch ar y Ffyrdd ar gyfer 2018/19.
Yn rhan o'r gwaith, bydd y cyngor yn gweithio gyda sefydliadau fel Casnewydd Fyw a Sustrans i wella diogelwch ar y ffyrdd a datblygu llwybrau cerdded a llwybrau i’r ysgol o fewn cymunedau.
Bydd yn cynnwys gwella ansawdd yr aer drwy gynlluniau blaengar i leihau allyriadau gan staff Strydlun a swyddogion iechyd amgylcheddol.
Dywedodd aelod y cabinet dros y Strydlun, y Cynghorydd Roger Jeavons ei fod yn falch iawn bod y cymorth gan Lywodraeth Cymru yn galluogi'r projectau i fynd yn eu blaen.
“Mae’r cyngor yn ymrwymedig i helpu ein trigolion i fwynhau cerdded neu seiclo yn y ddinas ar lwybrau diogel sydd wedi eu neilltuo’n benodol ar y gweithgareddau iachus hyn.
“Mae annog y rhai ifanc i gerdded i’r ysgol yn ffordd arall o leihau allyriadau carbon hefyd, a llai o draffig yn ymgasglu o amgylch ysgolion," dywedodd y Cynghorydd Jeavons.
“Mae’r cyngor yn cydymffurfio gyda Deddf Teithio Actif (Cymru) 2013, sydd â’r nod o wneud cerdded a seiclo y dewis mwyaf deniadol ar gyfer siwrneiau ‘teithio actif’ byr.
Mae’r cyngor eisoes wedi cynnal ymgynghoriad ac wedi casglu gwybodaeth ar gyfer Mapiau Llwybrau Presennol (MLlP) y gellir eu lawrlwytho o’r wefan - http://www.newport.gov.uk/en/Transport-Streets/Active-travel.aspx