Newyddion

Sesiynau gan arbenigwyr am ddim ar gyfer entrepreneuriaid newydd yn dychwelyd i Gasnewydd

Wedi ei bostio ar Friday 11th May 2018

Bydd Ysgol Fusnes Wib ym Marchnad Casnewydd rhwng 4 ac 15 Mehefin a bydd ar agor i unrhyw yn sy'n breuddwydio am gychwyn ei fusnes ei hun.

Mewn partneriaeth gyda Chyngor Dinas Casnewydd, bydd y cyrsiau hyfforddi pythefnos o hyd yn rhoi'r cymorth, yr arfau a'r hyder sydd eu hangen i gymryd y cam hollbwysig cyntaf.

Mae modd mynychu am y pythefnos cyfan, neu alw heibio i'r sesiynau fydd yn cynnwys gweithdai ar bynciau megis cychwyn busnes heb fuddsoddiad, gwerthu a marchnata, creu gwefannau am ddim a dod o hyd i gwsmeriaid.

Gall pobl sydd eisoes wedi cychwyn busnes ond a hoffai gyngor gan arbenigwyr hefyd fynychu.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, aelod cabinet y cyngor dros adfywio a thai: "Rydyn ni wrth ein bodd yn croesawu'r Ysgol Fusnes Wib nôl i'r ddinas. Mae adborth gan y rhai sydd wedi mynychu'r digwyddiadau yn y gorffennol wedi bod yn hynod gadarnhaol.

  "Byddwn yn annog pawb sydd am gychwyn busnes, ond ag angen cyngor, i fanteisio ar y cyfle ardderchog hwn am ddim cost o gwbl.

  "Mae Casnewydd Nawr, y sefydliad gwella busnes, a Chymdeithas Dai Sir Fynwy, yn helpu gyda'r costau unwaith eto, a hoffwn ddiolch iddyn nhw ac i'r Ysgol Fusnes Wib."

Mae mynediad am ddim, ond dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael, felly mae'n rhaid cadw lle ymlaen llaw yn www.popupbusinessschool.co.uk/events .

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad ac am gymorth arall sydd ar gael gan dîm gwasanaeth busnes Casnewydd ewch i http://www.newport.gov.uk/cy/Business/Business-home-page.aspx

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.