Newyddion

Adeiladau cyhoeddus yn rhoi croeso cynnes i famau sy'n bwydo ar y fron

Wedi ei bostio ar Tuesday 27th March 2018
breastfeeding welcome 2

Gavin Horton, Councillor David Mayer, mum Moira Wooles with Lucas

Mae cynllun yn annog safleoedd sy'n agored i'r cyhoedd i ddarparu amgylchedd cyfeillgar ar gyfer mamau sy'n bwydo ar y fron a'u teuluoedd.

Mae'r fenter yn cael ei chydlynu gan Gyngor Dinas Casnewydd ar ran Casnewydd yn Un, y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus.

Bu'n gweithio gyda busnesau a sefydliadau yn y ddinas er mwyn datblygu'r cynllun croesawu bwydo ar y fron newydd.

Mae nifer eisoes wedi cytuno i fod yn rhan o'r cynllun a byddant yn arddangos logo "mae croeso i chi fwydo ar y fron".

Maent yn cynnwys Tiny Rebel, Glan yr Afon, Mrs T's ym Mharc Beechwod a chaffi Horton.

Dywedodd y Cynghorydd David Mayer, aelod cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros y Gymuned ac Adnoddau: "Mae'n wych bod sawl busnes a sefydliad wedi cytuno i gymryd rhan yn y cynllun.

"Er ei bod yn anghyfreithlon i wahaniaethu yn erbyn merched sydd am fwydo ar y fron mewn mannau cyhoeddus, nid ydym am i famau a'u teuluoedd deimlo eu bod ond yn cael eu goddef nac yn cael eu gwthio i mewn i gornel. Mae'n bwysig eu bod yn gallu cyflawni'r weithred gwbl naturiol hon mewn amgylchedd sy'n groesawgar ac yn gyfeillgar.

"Gallai hyn fod mor syml â dangos y logo mewn man amlwg fel bod pob cwsmer yn ymwybodol bod y lleoliad yn cefnogi bwydo ar y fron neu'n cynnig cadair gyfforddus i fam sydd am fwydo'i phlentyn.

"Mae gweithiwr cyngor wedi treulio sawl mis yn ymweld â busnesau ac adeiladau cyhoeddus eraill a chynnal sesiynau ymwybyddiaeth ar gyfer staff.

"Da iawn i'r rhai sydd eisoes yn cymryd rhan a hoffai'r cyngor glywed gan fusnesau a sefydliadau eraill a hoffent fod yn rhan o'r cynllun ardderchog hwn."

Mae Casnewydd yn Un yn cynnwys amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys y cyngor, Bwrdd Iechyd Ysbyty Prifysgol Aneurin Bevan a Heddlu Gwent.

Mae cofrestr o leoliadau sy'n rhan o'r cynllun croesawu bwydo ar y fron i'w chael yn www.newport.gov.uk/en/Care-Support/Children-and-families/Breastfeeding-welcome.aspx.

Os hoffech gymryd rhan, neu awgrymu eiddo, e-bostiwch [email protected]

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.