Newyddion

Sylweddau coll - Ysgol John Frost

Wedi ei bostio ar Wednesday 28th March 2018
Radioactive storage box b

Datganiad amlasiantaeth wedi'i gyhoeddi gan y canlynol:

Cyngor Dinas Casnewydd (sefydliad arweiniol)

Heddlu Gwent

Cyfoeth Naturiol Cymru

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Iechyd Cyhoeddus Lloegr (gyda chyfrifoldeb dros ymbelydredd)

Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

 

Hysbyswyd bod pedwar o ffynonellau ymbelydrol lefel isel, a ddefnyddir mewn gwersi gwyddoniaeth, ar goll o Ysgol John Frost, Casnewydd.

Mae'r eitemau yn cael eu hystyried fel rhai risg isel ac nid ydynt yn peri risg gyffredinol i iechyd pobl.

Mae'r ysgol yn cydweithio'n agos â Chyngor Dinas Casnewydd i ymchwilio hyn. Mae'r holl sefydliadau perthnasol gan gynnwys Heddlu Gwent, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi cael eu hysbysu ac mae dull gweithredu ar y cyd wedi cadarnhau'r lefel isel o risg sydd i’r ffynonellau hyn.

Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch hefyd wedi cael ei hysbysu fel yr awdurdod rheoleiddiol.

Mae gan y rhan fwyaf o ysgolion uwchradd nifer o ffynonellau ymbelydrol bach sy'n cael eu defnyddio ar gyfer addysgu myfyrwyr am briodweddau pelydriad ac ymbelydredd.

Nid oes gan ddisgyblion fynediad atynt na chysylltiad uniongyrchol â hwy fel rhan o'r gwersi. Mae'r holl driniaeth o'r fath sylweddau yn cael ei wneud gan staff sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig ac o fewn amgylchedd rheoledig.

Gwnaed chwiliad o'r safle ac mae offer darganfod arbenigol hefyd wedi cael ei ddefnyddio. Ni chanfuwyd yr eitemau o ganlyniad i'r chwiliadau hyn. Bydd ymchwiliadau yn parhau a chan fod yr ysgol wedi cael cryn dipyn o waith wedi’i wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, bydd chwiliad manwl pellach yn ystod gwyliau'r Pasg.

Roedd y ffynonellau yn cael eu storio mewn blychau pren â leinin plwm gyda labelu adnabod ymbelydrol. Mae'r ffynonellau’n cynnwys cwpan bach 1.3cm mewn diamedr ac 0.8cm o uchder. Mae'r deunydd ymbelydrol wedi'i osod yng nghefn y cwpan a'i warchod gan gril ar y blaen. Mae coesyn ynghlwm fel cymorth i ddal y ffynhonnell.

Fel enghraifft, mae un o'r deunyddiau ymbelydrol a'r lefelau cysylltiedig yn debyg i'r rhai a ddarganfyddir mewn synwyryddion mwg cartref ac nid ydynt yn peri peryg cyffredinol. Fodd bynnag, os cânt eu trin yn uniongyrchol neu eu cadw y tu allan i'w blwch amddiffynnol yn agos at bobl, mae risg fach o amlygiad. Byddai oddeutu 13 awr o amlygiad yn cyfateb fwy neu lai i un pelydr-x deintyddol.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Mae'r asiantaethau arbenigol wedi cynnal asesiadau llawn ac wedi cadarnhau bod y sylweddau coll yn peri risg isel iawn i iechyd. Fodd bynnag, rydym yn trin y mater yn ddifrifol iawn. Cynhelir chwiliadau pellach a chaiff ymchwiliad llawn ei wneud.

"Os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth, cysylltwch â Heddlu Gwent neu Gyngor Dinas Casnewydd."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.