Newyddion

Gwasanaeth codi baner yn y Ganolfan Ddinesig

Wedi ei bostio ar Thursday 8th March 2018

Bydd y gwasanaeth yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Ddinesig Casnewydd am 10am

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn nodi Diwrnod y Gymanwlad gyda gwasanaeth codi baner ar ddydd Llun, 12 Mawrth.

Bydd y gwasanaeth yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Ddinesig Casnewydd am 10am, dan arweiniad Caplan y Maer, Mr Michael Doyle.

Yn ystod y gwasanaeth bydd Maer Casnewydd, y Cynghorydd David Fouweather, yn darllen neges bersonol gan Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, y Gwir Anrhydeddus Patricia Scotland, CF.

Caiff Datganiad o Ymrwymiad ei ddarllen gan y Dirprwy Arglwydd Raglaw ar gyfer Gwent Mr Chris Freegard cyn codi baner y Gymanwlad, gweithred a gaiff ei hailadrodd ym mhob rhan o’r byd pan fydd y teulu o genhedloedd yn cadarnhau ymrwymiad holl aelod-wladwriaethau’r Gymanwlad i ddemocratiaeth, datblygiad a pharch tuag at amrywiaeth.

Ar Ddiwrnod y Gymanwlad bydd pobl o bob oedran a chefndir yng ngwledydd y Gymanwlad yn ailymrwymo i weithio ‘Tuag at Ddyfodol Cyffredin’, y thema ar gyfer eleni, ac hefyd ar gyfer Cyfarfod Penaethiaid Llywodraethau y Gymanwlad a gynhelir yn y DU ym mis Ebrill.

Dywedodd Bruno Peek, Cychwynnwr a Meistr y Pasiant ‘Codi Baner ar gyfer y Gymanwlad: “Rwy’n rhyfeddu pa mor gyflym y mae’r digwyddiad hwn wedi dal dychymyg y cyhoedd yn y DU ac o amgylch y Gymanwlad.

“Dim ond y bedwaredd flwyddyn yw hon ac mae cyfranogiad cynifer o bobl o bob oedran a chefndir yn dangos potensial aruthrol y project hwn a’r Gymanwlad.

“Mae’n ddull cadarnhaol ac ysbrydoledig i bobl gysylltu a chynorthwyo eu cyd-ddinasyddion yn y  Gymanwlad mewn teulu sy’n ymestyn dros gefnforoedd a chyfandiroedd.

“Mae gwir ymdeimlad o addewid a gobaith ar gyfer y dyfodol yn y byd cythryblus hwn.”

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.