Newyddion

Parêd a Gwasanaeth D-Day yng nghanol y ddinas

Wedi ei bostio ar Monday 4th June 2018

Bydd y Parêd a’r Gwasanaeth Coffa D-Day blynyddol, wedi’i drefnu gan Gymdeithas Frenhinol Cymrodyr Cymru, ddydd Mawrth 6 Mehefin.

Bydd Maer Casnewydd, y Cynghorydd Malcolm Linton, yn y digwyddiad i osod torch ar ran y Cyngor.

Bydd pobl sy’n cymryd rhan yn y parêd yn cwrdd y tu allan i Wetherspoons, Cambrian Road o 11.30am a bydd y parêd yn gadael am 11.45am o Cambrian Road, gan droi i’r chwith yn ardal gerddwyr Bridge Street yna i'r chwith ar Heol Fawr i’r Gofeb D-Day lle bydd gwasanaeth byr.

Byddai Cymdeithas Frenhinol Cymrodyr Cymru yn falch pe bai aelodau’r cyhoedd yn gallu cefnogi’r digwyddiad drwy leinio’r strydoedd i wylio’r parêd.

Mae Parêd D-Day yn nodi’r dyddiad hanesyddol yn 1944 pan ymosododd byddinoedd morol, awyr a thir cynghreiriol ar Ffrainc oedd wedi’i feddiannu gan y Nazïaid.

Cyrhaeddon nhw draethau Normandi ar 6 Mehefin, a nododd ddechrau ymgyrch hir a gwaedlyd i ryddhau gogledd-orllewin Ewrop o feddiant yr Almaenwyr, ac a fu’n drobwynt yn yr Ail Ryfel Byd.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.