Newyddion

Argraff arlunydd o bont yn cael ei datgelu

Wedi ei bostio ar Wednesday 27th June 2018
Newport Devon Place footbridge proposal

Sut y gallai'r bont yn cysylltu Devon Place a Queensway edrych

Mae argraff arlunydd o sut y gallai’r bont newydd sy’n disodli isffordd Devon Place edrych wedi mynd gerbron cynllunwyr.

Cyflwynwyd y dyluniad ar ran Cyngor Dinas Casnewydd ar ôl i Lywodraeth cymru gytuno i roi cymorth ariannol i gam cychwynnol y project.

Wynebai’r dylunwyr heriau technegol a strwythurol wrth ddylunio’r bont newydd fydd yn cysylltu Devon Place â Queensway.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: “Mae’r gwaith o godi pont dros gorsaf brysur yn her logstaidd sylweddol a bydd angen monitro’r cynnydd arno, sydd ond yn bosibl ambell waith y flwyddyn.

“Bydd angen i’r Cyngor weithio’n agos gyda Norse a Network Rail i wneud hyn.

“Yn y cyfamser byddwn yn dal i lanhau’r isffordd yn ddyddiol ac yn ei olchi â jet yn wythnosol.

“Bydd y cais cynllunio'n cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor ac mae croeso i bobl rannu eu sylwadau.”

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.