Newyddion

Pobl 14-25 oed – 15 munud i weddnewid eich dyfodol

Wedi ei bostio ar Wednesday 20th June 2018
KEY CITIES HEADER GRAPHIC [1000x500px]

Mae pobl ifanc yng Nghasnewydd yn cael eu gwahodd i roi gwybod i'r bobl sydd mewn grym yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw mewn arolwg ar-lein newydd sy’n cymryd tua 15 munud.

Mae’r arolwg yn gofyn i bobl 14-25 oed roi eu barn onest ar bynciau fel cyngor ar yrfaoedd, eu hiechyd a lles, democratiaeth a Brexit. Mae’r materion hyn yn effeithio ar bob person ifanc yn ein hardal, felly mae angen cynifer o bobl â phosibl arnon ni i roi llais iddyn nhw.

Mae canlyniadau’r arolwg hwn yn cael eu defnyddio i greu darlun o fywyd i berson ifanc yng Nghasnewydd ar hyn o bryd. Mae pobl ifanc mewn 19 o ardaloedd eraill ledled Cymru a Lloegr yn cael eu gwahodd i lenwi’r un arolwg ac mae’r canlyniadau’n cael eu casglu er mwyn eu rhannu a’u trafod gyda gwleidyddion ac uwch reolwyr mewn cynhadledd genedlaethol ym mis Gorffennaf yn Huddersfield.

Sut mae cymryd rhan?

Os ydych chi yn y grŵp oedran 14-25 ac rydych chi’n byw yng Nghasnewydd, dilynwch y ddolen https://www.surveymonkey.co.uk/r/T3JHSRN i’r arolwg a’i rannu gyda’ch ffrindiau hefyd. Byddem hefyd yn annog pobl i rannu’r ddolen gyda phobl ifanc maen nhw’n eu nabod neu gydweithwyr.

Rhaid ateb erbyn 27 Mehefin 2018.

Mae’r arolwg, a’r gynhadledd ym mis Gorffennaf yn rhan o waith Grŵp Dinasoedd Allweddol.   Cafodd y grŵp ei sefydlu yn 2013 ac mae’n cynrychioli 20 o ‘ddinasoedd’ maint canolog o Sunderland a Kirklees yn y Gogledd i Plymouth yn y De-orllewin.

Y Cynghorydd Peter Box, Arweinydd Cyngor Wakefield yw cadeirydd presennol Dinasoedd Allweddol. Dyma a ddywedodd:

 “Mae eisiau i ni glywed gan bobl ifanc am eu bywyd lle maen nhw’n byw – y pethau da, y pethau drwg, a’r pethau sydd yn eu golwg nhw angen newid. Yn ogystal â chael ei drafod yn y gynhadledd, bydd y canfyddiadau hefyd yn rhan o ddogfen y byddwn ni’n ei chyflwyno i’r Senedd ym mis Medi.

Os ydych chi’n berson ifanc, dyma’ch cyfle i ddylanwadu ar eich dyfodol – mae hi’n bendant werth 15 munud o’ch amser.”

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.