Newyddion

Seren y byd teledu i ymweld â Chasnewydd yn ystod Taith Bioblitz y DU

Wedi ei bostio ar Wednesday 18th July 2018

 

Bydd y cyflwynydd teledu a’r naturiaethwr Chris Packham yn dod i Gasnewydd, fel rhan o’r archwiliad annibynnol cyntaf o’i fath yn y DU yn ymwneud â Gwyddoniaeth Dinasyddion. 

Ei nod fydd dwyn sylw ar rywogaethau’r wlad sydd dan fygythiad.

Ar Ddydd Sadwrn 21 Gorffennaf bydd yn ymweld â Gwlyptiroedd Casnewydd a Mynwent St Gwynllyw, dau safle allan o 48 trwy wledydd Prydain y bydd yn ymweld â hwy fel rhan o ymgyrch Bioblitz y DU – dyw gwarchodfeydd natur ddim yn ddigon! 

Mae diben difrifol i ymgyrch Bioblitz y DU – dyw gwarchodfeydd ddim yn ddigon! Chris

Caiff canlyniadau archwiliad 2018 eu cofnodi i greu meincnod: bydd hyn yn help i fesur cynnydd a gostyngiad niferoedd y gwahanol rywogaethau sydd i’w gweld ar y safleoedd hyn yn y dyfodol.   

Bydd yn dechrau ar ei daith yn Ucheldir yr Alban ar 14 Gorffennaf ac oddi yno, dros 10 diwrnod, yn gwau ei ffordd ar draws y DU, gan gynnwys Gogledd Iwerddon, Cymru a rhannau o Loegr ar hyd y daith.

Bydd pob math o ffurfiau byw yn cael eu cofnodi yn y cipolwg yma ar fywyd gwyllt y wlad:  O bryfaid i ffwng, o famaliaid i wyfynod ac o adar i loÿnnod byw. 

Ym mhob safle bydd Chris a thîm Bioblitz y DU, sy’n cynnwys cannoedd o arbenigwyr, cadwraethwyr ifanc, gwneuthurwyr ffilmiau a phobl o bob cefndir a gallu, a gaiff eu cynorthwyo gan arbenigwyr rhywogaethau ysgwydd wrth ysgwydd ag amaturiaid brwdfrydig, i nodi'r rhai sydd yn ennill a cholli’r frwydr yng nghefn gwlad Gwledydd Prydain.  

Dywed Chris Packham: “Rwy’n gwneud hyn am fy mod am danlinellu fod tirwedd y DU yn wynebu trafferthion lu. Dylai ein disgwyliadau fod lawer yn uwch i ddisgwyl gweld bywyd gwyllt o’n cwmpas drwy’r adeg ond yn anffodus mae’n rhaid i ni ymfodloni ar fynd i warchodfeydd natur.”

 Y nod yn y pen draw yw dathlu rhai hanesion cadwraeth llwyddiannus, ond hefyd i nodi’r methiannau.  

I gloi, dywed Chris: Rydym yn trin gwarchodfeydd natur fel ‘tae nhw’n amgueddfeydd neu orielau celf, rydym yn mynd yno, yn ymfodloni bod llawer o fyd natur yno, ond ar y ffordd adref wrth yrru drwy gefn gwlad, does dim byd ar ôl.

 “Mae rhai rhannau yn gwbl hesb, yn ddiffeithwch, a’r hyn y carem ni ei wneud yw dweud wrth bobl “nad yw hynny yn ddigon da”. Rydym am weld bywyd gwyllt ym mhob man, nid dim ond mewn gwarchodfeydd.”

Mae’r ymgyrch hefyd yn codi arian trwy gyllido torfol gyda’r holl arian a gaiff ei godi yn cael ei rannu rhwng y projectau cadwraeth ar y rheng flaen ar lawr gwlad yr ymwelwyd â hwy yn ystod yr ymgyrch, yn ogystal â Chymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth.

Ewch i www.chrispackham.co.uk er mwyn dilyn y Bioblitz

Ac ymunwch â’r Digwyddiad Facebook: https://www.facebook.com/events/221259578624823/

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.