Newyddion

Gwobr y Faner Werdd uchel ei bri i barciau a mynwent Cyngor Dinas Casnewydd

Wedi ei bostio ar Monday 16th July 2018
Beechwood Park c reduced in size

Mharc Beechwood

Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi datgelu enillwyr Gwobr y Faner – marc ansawdd rhyngwladol parc neu fan gwyrdd o ansawdd – ar gyfer eleni. 

Mae 201 o barciau a mannau gwyrdd, y nifer uchaf erioed, yn cynnwys prifysgolion, mynwentydd, coetiroedd a rhandir ar draws Cymru, wedi bodloni’r safonau uchel sydd eu hangen i dderbyn Gwobr flaenllaw y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd.

Bydd baneri’n hedfan am y tro cyntaf erioed ym Mharc Beechwood ac eto ym Mharc Belle Vue sydd wedi cael dyfarniad y Faner Werdd am yr 11eg flwyddyn yn olynol i gydnabod eu cyfleusterau rhagorol a’u hymrwymiad i ddarparu mannau gwyrdd o safon.

Dywedodd y Cynghorydd Deb Harvey, Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden Cyngor Dinas Casnewydd ei bod wrth ei bodd gyda'r newyddion gwych bod Parc Beechwood yn cael y Faner Werdd am y tro cyntaf.

 “Mae Baner Werdd Parc Beechwood yn gyflawniad gwych i’r ddinas ac yn deyrnged i holl waith caled ein staff tiroedd sy’n sicrhau bod modd i drigolion fwynhau’r parc bob dydd. 

 “Rwyf hefyd yn falch bod Parc Belle Vue eto wedi cael dyfarniad y Faner Werdd am yr 11eg flwyddyn yn olynol. Mae hyn yn gyflawniad arbennig a hoffwn ddiolch i'n staff a Ffrindiau Parciau Pert Casnewydd am eu cymorth.

 “Dylen ni wir werthfawrogi eu hymrwymiad, ac ymrwymiad y staff, sy’n golygu bod Belle Vue eto’n cael y wobr hon. Mae’n haeddiannol iawn.”

Mae’r Cyngor hefyd yn dathlu’r newyddion bod Amlosgfa Gwent wedi cael y Faner Werdd am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Cyflwynir rhaglen Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru’n Daclus, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Caiff ei beirniadu gan arbenigwyr mannau gwyrdd, sydd yn gwirfoddoli eu hamser i ymweld â safleoedd sy’n ymgeisio a’u hasesu yn erbyn wyth maen prawf llym, yn cynnwys safonau garddwriaethol, glendid, rheolaeth amgylcheddol a chyfranogiad cymunedol.

Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd yn Cadwch Gymru’n Daclus:

“Rydym wrth ein bodd yn dathlu blwyddyn lwyddiannus arall i Wobrau’r Faner Werdd yng Nghymru. Mae’r 201 o faneri sydd yn chwifio yn dyst i ymroddiad a brwdfrydedd y staff a’r gwirfoddolwyr ar draws y wlad sydd yn gweithio’n ddiflino i gynnal safonau Gwobr y Faner Werdd. 

“Byddwn yn annog pawb i fynd allan i’r awyr agored yr haf hwn i fwynhau’r parciau a’r mannau gwyrdd anhygoel sydd gennym ar drothwy’r drws.”

Mae rhestr lawn o enillwyr y wobr ar gael ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus https://keepwalestidy.cymru/cy/ein-gwaith/gwobrau/y-faner-werdd-ar-gyfer-parciau/


 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.