Coffau croeso Caerllion i'r plant oedd yn ffoi rhag rhyfel
Wedi ei bostio ar Thursday 12th July 2018
Heddiw, bu dirprwy faer Casnewydd, y Cynghorydd Phil Hourahine, yn datgelu llechen yn coffau'r cyfnod y gwnaeth pobl Caerllion groesawu grŵp o blant a oedd yn ffoi rhag erchylltra rhyfel.
Ym 1937, cynigiwyd lloches i 56 plentyn o Wlad y Basg a'u gofalwyr yng Nghaerllion, ymhell oddi wrth y Rhyfel Cartref a oedd yn hollti Sbaen.
Cafodd rhai o'r plant gartref yn Cross Street yn y pen draw, yn yr eiddo a elwir bellach yn Pendragon House, lle datgelwyd y llechen yn coffau eu cyfnod yno.
Y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, a agorodd y digwyddiad, gyda chynrychiolwyr o BCA '37 DU, Cymdeithas Plant Basg y DU, a Chymdeithas Sifig Caerllion, yr oedd y ddwy gymdeithas wedi cyfrannu at y llechen, yn bresennol.
Roedd y Cynghorwyr Ward, Gail Giles a Jason Hughes, hefyd yno, yn ogystal â pherthnasau, sefydliadau lleol a disgyblion o holl ysgolion Caerllion yn canu.
Dywedodd y Cynghorydd Wilcox: "Rwyf wrth fy modd yn cael bod yma heddiw, i helpu i goffau pennod arbennig iawn yn hanes Caerllion. Mae'n rhaid bod y plant wedi eu dychryn i'r byw yn gorfod gadael eu teuluoedd yn ystod y rhyfel, ond cymerodd y bobl nhw i'w calonnau ac ymgartrefon nhw yn eu cartrefi newydd, hyd yn oed yn mynd i'r ysgol yng Nghasnewydd.
"Mae cymariaethau i'w gwneud â sefyllfa heddiw, pan fydd plant o wledydd eraill sy'n cael eu rhwygo gan ryfel, yn cyrraedd yma ac rwy'n gobeithio y byddan nhwythau hefyd yn cael y lloches ddiogel a gofalgar a gafodd y plant hyn pan ddaethant i Gaerllion dros 80 mlynedd yn ôl."
Y Cynghorydd Gail Giles, yr Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau, a drefnodd y digwyddiad.
Dywedodd: "Hoffem ddiolch i bawb a fu'n rhan o'r achlysur arbennig iawn hwn, ac i'r rhai a gyfrannodd at y llechen newydd yn coffau'r cyfnod hynod yn hanes Caerllion.
"Gallwn ni fod yn falch o'r croeso a gafodd y plant hyn gan bobl Caerllion a thu hwnt. Hoffwn dalu teyrnged yn arbennig i Maria Fernandez, y warden a sicrhaodd eu bod yn cael safon gofal ac addysg cystal yn ystod eu cyfnod yma."
Pan ddaeth y ffoaduriaid i Gaerllion yn gyntaf, roedden nhw'n byw yn Cambria House wedi i lu o wirfoddolwyr helpu i lanhau a pharatoi'r adeilad.
Ym 1939, wedi cychwyn yr Ail Ryfel Byd, dychwelwyd 25 o'r bobl ifanc i'w gwlad. Cymerodd y fyddin feddiant ar Cambria House, felly aeth rhai o'r plant a oedd yn dal yno i fyw gyda theuluoedd lleol ac aeth eraill i eiddo arall, ond cymerodd y fyddin hwnnw hefyd toc wedyn.
Felly, cafodd 29 plentyn gartref newydd yn Cross Street, Pendragon House heddiw, lle mae'r llechen i'w gweld uwchben y drws ffrynt.