Pob lle wedi'i lenwi ar gyfer uwch-gynhadledd
Wedi ei bostio ar Monday 15th January 2018
Disgwylir i Uwch-gynhadledd Dinas Casnewydd, a gynhelir ar 18 Ionawr, fod yr un fwyaf erioed ar ôl i bob un o'r 300 o leoedd gael ei lenwi.
Bydd arweinwyr busnes a chymunedol yn ymgasglu yng Ngwesty'r Celtic Manor lle bydd yr ymgynghoriad ehangach ar uwch-gynllun canol y ddinas yn cael ei lansio.
Yna byddant yn clywed gan nifer o siaradwyr o'r radd flaenaf:
David Buttress, cadeirydd gweithredol tîm rygbi'r Dreigiau;
Ian Edwards, prif weithredwr Gwesty'r Celtic Manor a Chanolfan Gynhadledd Ryngwladol Cymru;
Dr Wyn Meredith, cyfarwyddwr y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd;
Damon Rands, rheolwr-gyfarwyddwr y cwmni gwe-ddiogelwch blaenllaw, Wolfberry;
Clare Johnson, pennaeth gwe-ddiogelwch Prifysgol De Cymru;
Will Godfrey, Prif Weithredwr Cyngor Dinas Casnewydd.
Meddai'r Cynghorydd Debbie Wilcox, a fydd yn agor ac yn cloi'r uwch-gynhadledd, "Mae'r bumed uwch-gynhadledd hon yn addo bod yr un orau eto ac unwaith eto gallwn edrych ymlaen at glywed gan y rhai sy'n ymwneud â phrosiectau cyffrous ar gyfer ein dinas.
"Mae Casnewydd yn lle gwych i fuddsoddi a gwneud busnes. Rwy'n siŵr y caiff y rhai sy'n dod i'r uwch-gynhadledd eu sbarduno gan yr ymdeimlad cadarnhaol sy'n lledaenu trwy'r ddinas ac y byddant am ein helpu i barhau i greu llwyddiant.
"Bydd y gwaith parhaus i adfywio canol y ddinas yn rhan hanfodol o'n huchelgeisiau i'r ddinas o hyd ac rydym am i bobl gyfrannu eu barn ynghylch yr uwch-gynllun a fydd yn amlinellu gweledigaeth ar gyfer y camau adfywio nesaf yng nghanol Casnewydd."