Newyddion

British Lionhearts yn dod â World Series Boxing i Gasnewydd

Wedi ei bostio ar Wednesday 31st January 2018

Bydd bocsio rhyngwladol o’r radd flaenaf yn dod i Gymru yn y gwanwyn pan fydd y British Lionhearts yn mynd i’r afael â’r Fighting Roosters o Ffrainc yn y World Series of Boxing (WSB) nos Sadwrn 14 Ebrill 2018 yng Nghanolfan Casnewydd.

Mae Joe Ward o Iwerddon, sydd wedi ennill teitl Pencampwr Ewrop deirgwaith (2011, 2015 a 2017)  ynghyd â thair medal ym Mhencampwriaeth y Byd (2013, 2015, 2017), a Cyrus Pattinson, Pencampwr Bocsio Prydain Fawr 2016, wedi cael eu cadarnhau fel aelodau o dîm y Lionhearts a fydd yn cystadlu ar y noson.

Mae carfan y British Lionhearts sy’n cystadlu yn WSB yn cynnwys bocswyr o garfan Olympaidd Bocsio Prydain Fawr ynghyd â sawl aelod o dramor, gan gynnwys Ward.

Cystadleuaeth bocsio tîm fyd-eang yw WSB rhwng bocswyr amatur blaenaf y byd.  Mae’n pontio’r bwlch rhwng bocsio Olympaidd a phroffesiynol ac mae bocswyr yn cystadlu heb festiau na gardiau pen mewn pum rownd o dair munud.  Mae gornest WSB yn cynnwys pum rownd a’r enillydd yw’r tîm sy’n ennill tair neu fwy.

Mae tocynnau cynnar ar ostyngiad i weld y British Lionhearts yn erbyn y Fighting Roosters o Ffrainc yng Nghanolfan Casnewydd nos Sadwrn 14 Ebrill 2018 ar werth nawr, am £16.50, yn www.gbboxing.org.uk/tickets.

Meddai’r bocsiwr pwysau welter, Chris Pattinson, “Rwyf wrth fy modd yn cystadlu mewn WSB ac rwy’n edrych ymlaen at focsio yng Nghasnewydd.  Mae digwyddiadau WSB yn llawer mwy tebyg i sioe broffesiynol gyda sesiwn bwyso ar y diwrnod blaenorol, siarad bygythiol a cherdded o gwmpas y cylch ar y nos er mwyn creu awyrgylch arbennig.  Fel aelod o garfan focsio Prydain Fawr, rwyf fel arfer yn cystadlu dramor, felly mae’n wych cael y cyfle i focsio yn y DU.”

Meddai Prif hyfforddwr y British Lionhearts, Bob McCracken, sydd hefyd yn Gyfarwyddwr Perfformiad Bocsio Prydain Fawr ac yn hyfforddwr Anthony Joshua, y pencampwr bocsio pwysau trwm byd-eang IBF, WBA ac IBO, “Mae WSB yn gystadleuaeth o’r radd flaenaf.  Mae pob un o’r prif wledydd a’r bocswyr gorau’n cymryd rhan ynddi ac mae sioeau WSB yn cynnwys pum gornest o safon rhwng cystadleuwyr cyfartal o ran eu gallu.

“Mae Cymru wedi darparu bocswyr yn gyson ar gyfer carfan Bocsio Prydain Fawr, felly mae’n arbennig o dda i ni allu dod â’r gystadleuaeth hon i Gasnewydd a diddanu’r cefnogwyr.”

Meddai’r Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, “I bob golwg bydd hyn yn ddigwyddiad aruthrol gyda’r cyfle i wylio athletwyr penigamp yn cystadlu â’i gilydd. Gyda chymorth ein partneriaid hamdden, Casnewydd Fyw, bydd pobl leol yn cael y cyfle i brofi awyrgylch y World Series Boxing ar garreg eu drws. Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o ddigwyddiadau blaenllaw rydym yn eu cynnal yng Nghasnewydd – sy’n tynnu sylw’r byd chwaraeon at ein dinas.”

Ceir rhagor o fanylion am y British Lionhearts yn www.gbboxing.org.uk/world-series-boxing/ a thrwy ddilyn y tîm ar Twitter: @Brit_Lionhearts.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.