Croesawu grantiau
Wedi ei bostio ar Tuesday 11th December 2018
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn croesawu'r grantiau ychwanegol sy'n cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru a fydd yn helpu i gyflymu nifer o brosiectau trafnidiaeth newydd yn y ddinas.
O ganlyniad, mae'r swm sydd wedi'i ddyfarnu i Gasnewydd eleni drwy Gronfa Trafnidiaeth Leol Casnewydd wedi cynyddu i dros £800,000.
Mae’r cyngor wedi ymrwymo i Ddeddf Teithio Lesol Llywodraeth Cymru ac i gynnig cynlluniau sy’n hyrwyddo bywydau iach.
Mae'r prosiectau newydd ar gyfer 2018/19 a thu hwnt yn cynnwys:
- £77,000 i helpu i ddatblygu'r gwaith ar bont droed Teithio Llesol sy'n cysylltu Devon Place â Queensway i fynd â’r cam adeiladu i dendro;
- £30,000 tuag at edrych ar lwybrau cerdded a beicio posibl i gysylltu pentref Llyswyry, Pentref Lysaghts a Monkey Island; a
- £25,000 i ddechrau gweithio ar astudiaeth trafnidiaeth gynaliadwy yng nghanol y ddinas.
Dywedodd y Cynghorydd Roger Jeavons, yr aelod Cabinet dros Strydlun: "Mae'r grantiau'n golygu y gallwn barhau i sicrhau bod gan ein dinas ddigonedd o rwydweithiau teithio llesol sy'n caniatáu i'n trigolion gerdded a beicio i'r gwaith a mwynhau yn eu hamser hamdden.
"Mae'r grantiau newydd hyn yn golygu y gallwn ganolbwyntio ar y tri phrosiect mawr hyn y gallwn wneud cynnydd cyson arnynt dros y misoedd nesaf."
Mae Casnewydd eisoes yn dechrau gweld buddion sylweddol i’r Rhwydwaith Teithio Llesol ac ers i’r Ddeddf ddod i rym yn 2014, mae’r cyngor, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, wedi cwblhau cyfres o brojectau gan gynnwys:
- Llwybr beicio ‘rhyng-ddinesig’ 6km o hyd rhwng Casnewydd a Chaerdydd dros Wastatiroedd Gwent
- llwybr oddi ar y ffordd i gerdded a beicio ar hyd yr SDR a hen ffordd y gwaith dur, gan fynd â defnyddwyr bron hyd at y ffin â Sir Fynwy.
- Mae Project Canolog a Deheuol Cylchol y Ddinas yn galluogi trigolion Llyswyry, Pilgwenlli, Fictoria a’r tu hwnt i gyrchu gwasanaethau canolog canol y ddinas, Friars Walk, gorsafoedd trenau a bysys, Parc Glan-yr-Afon a Theatr Glan-yr-Afon, ar hyd llwybr sydd heb draffig o gwbl.
- Mae tair pont newydd yng nghynllun Maes Hamdden Llyswyry, sy’n cynnig llwybr defnydd ar y cyd sy’n addas i gerddwyr a beicwyr ac sy’n ategu’r gwaith i uwchraddio cyfleusterau chwaraeon a hamdden yn yr ardal.
- gwaith gwella ar Lôn Betws i greu llwybr oddi ar y ffordd ar gyfer cerddwyr a beicwyr ar ochr ogleddol y lôn, gyda chroesfannau newydd yn cysylltu llwybrau camlesi â'i gilydd a hefyd ag Ysgol Uwchradd Casnewydd.
- Cyllid ar gyfer gwaith yn Crindau a Shaftesbury i wella’r llwybr rhwng canol y ddinas a’r anheddau tua’r gogledd o Gasnewydd.