Newyddion

Ailenwi'r felodrom i anrhydeddu buddugwr Tour de France

Wedi ei bostio ar Friday 17th August 2018
Geraint Thomas at Velodrome 2012

Llun o Geraint yn y Felodrom yn 2012

Mae Cyngor Dinas Casnewydd a Chasnewydd Fyw yn falch iawn o gyhoeddi bod Geraint Thomas MBE wedi derbyn ein cynnig i ailenwi Feledrom Cenedlaethol Cymru i'w anrhydeddu.

Yr enw fydd Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas i gydnabod ei lwyddiant gwych a'i gysylltiadau agos â lleoliad beicio pwysig Casnewydd.

Ym mis Gorffennaf, daeth Geraint y Cymro cyntaf a'r trydydd o'r DU i ennill ras beicio ffordd enwocaf y byd, y Tour de France.

Y mis nesaf, mae'n dod i Gasnewydd fel rhan o dîm Sky yn y Tour of Britain, wrth i'r ddinas groesawu diwedd y cam cyntaf ddydd Sul 2 Medi.

Meddai'r Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: "Rydym am gydnabod llwyddiant aruthrol Geraint. Dyma'r wobr fwyaf trawiadol mewn gyrfa lewyrchus sy'n cynnwys llu o wobrau, yn cynnwys dwy fedel aur ar y trac yn y gemau Olympaidd.

 "Bu Geraint yn ymwelydd rheolaidd i Felodrom Cenedlaethol Cymru ers ei agor yn 2003 ac mae wedi dweud gymaint y mae wedi ei olygu iddo, felly mae'n gwbl addas i Gasnewydd roi'r anrhydedd hon iddo.

 "Mae nid yn unig yn un o gampwyr mwyaf llwyddiannus y wlad, mae hefyd wedi ysbrydoli cenedlaethau o bobl ifanc. Fel llawer o bobl, cafodd ei fedrau, ei benderfyniad a'i waith caled argraff arnaf, yn ogystal â'i ymddygiad a'i agwedd. Dyma wir arwr chwaraeon, sy'n haeddu pob clod a gafodd.

 "Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol eraill am eu cefnogaeth i'n cynnig."

Dywedodd John Harrhy, Cadeirydd Casnewydd Fyw, yr ymddiriedolaeth elusennol gofrestredig sy'n rhedeg y Felodrom: "Roedden ni i gyd wedi dotio gan lwyddiant arwrol Geraint yn y Tour de France, a bu'r bwrdd a'n partneriaid allweddol yn unfryd yn ein barn y dylid newid enw'r Felodrom i anrhydeddu Geraint.

 "Rydym wedi croesawu Geraint i'r Felodrom ar lawer achlysur ac rydyn ni'n falch o fod yn rhan o'r llwyddiant, felly bydd rhoi ei enw ynghlwm â chanolfan feicio genedlaethol Cymru yn ysbrydoli pawb a fydd yn defnyddio'r cyfleuster a bydd yn rhan o'r dreftadaeth sy'n dilyn llwyddiannau mor anhygoel.

 "Mae ymholiadau ar gyfer beicio wedi cynyddu'n sylweddol, gyda phobl o bob oedran a chefndir am feicio. Mae Casnewydd Fyw yn edrych ymlaen at gynnig gwasanaethau o safon ryngwladol ac rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio â Geraint yn y dyfodol, i ddatblygu'r dreftadaeth a ddaw o'i lwyddiant ac ysbrydoli pobl i feicio a chymryd rhan yn y gamp."

Y Felodrom hefyd yw cartref Beicio Cymru, Corff Llywodraethu Cenedlaethol Beicio Cymru.

Dywedodd Prif Weithredwr Beicio Cymru, Anne Adams-King: "I ddechrau, mae gweld Geraint yn Feiciwr o Gymru sydd wedi codi o safon ei glwb, ar hyd y llwybr talent i ymuno ag un o'r timau beicio proffesiynol gorau, yn ysbrydoliaeth, ond bu ei weld yn mynd ymlaen i ennill ras beicio ffordd fwyaf clodfawr y byd yn rhywbeth tra arbennig.

  "Mae pobl Cymru wedi bod yn gefn i Geraint a gobeithio bod ei lwyddiant yn profi i'n clybiau, beicwyr a hyd yn oed pobl nad ydyn nhw wedi cychwyn beicio eto, fod unrhyw beth yn bosib os ydyn ni'n gweithio'n ddigon caled.

  "Mae Felodrom Cenedlaethol Cymru yn gyfleuster hyfforddi gwych, sy'n cynnig cyfleoedd i ddechreuwyr a beicwyr mwy profiadol; mae'n hollol wych y bydd cartref Beicio Cymru nawr yn dwyn enw Geraint."

Dywedodd Geraint Thomas:  "Mae'n anrhydedd enfawr i gael y Velodrome wedi'i ailenwi ar fy ôl i - nid wyf yn gallu credu'r peth i fod yn onest! 

"Mae'r Velodrome wedi chwarae rôl holl bwysig yn fy hanes beicio ac yn parhau i chwarae rôl allweddol o ran ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o feicwyr yn Ne Cymru.

"Mae'n gyfleuster gwych i feicwyr o bob oed a gallu i ddatblygu eu talentau.

"Hoffwn ddiolch yn bersonol i bawb sydd wedi chwarae eu rhan yn hyn ac edrychaf ymlaen at weld pawb yn yr agoriad mawreddog."

Bu Geraint Thomas yn hyfforddi yn Felodrom Cenedlaethol Cymru ers ei agor yn 2003 a bu'n rhan o wersylloedd hyfforddi â Thîm GB, cyn gemau Olympaidd haf 2012 pan fu iddo ennill ei ail fedel aur Olympaidd, a Thîm Cymru cyn Gemau'r Gymanwlad yn 2014 pan enillodd fedel arall.

Bu yno am sesiwn hyd yn oed â John Bishop, Jamie Redknapp, Micky Flanagan a Jack Whitehall ar gyfer League of Their Own yn 2012. Bu diwrnodau trac Geraint Thomas hefyd yn hynod boblogaidd.

Yn 2011, dywedodd wrth bapur newydd lleol y bu'r ffaith bod y cyfleuster nid nepell o'i gartref yn amhrisiadwy a dweud pa mor gyffrous y bu iddo pan agorodd yn 2003.

 "Yng Nghymru, mae'r Felodrom wedi bod yn aruthrol o ran annog cyfranogiad; mae'n wych i'r gamp ac mae'n denu pobl i Gymru. Daw Tîm GB i Gasnewydd i fireinio'u camp cyn y gemau Olympaidd, ac mae hyn yn dangos statws uchel y Felodrom," dywedodd bryd hynny.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.