Newyddion

Newyddion da i fyfyrwyr Safon Uwch Casnewydd

Wedi ei bostio ar Tuesday 21st August 2018

Mae’r Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, wrth ei bodd gyda’r gwelliant y mae myfyrwyr Safon Uwch y ddinas wedi’i wneud.

Dywedodd y Cynghorydd Wilcox: “Mae canlyniadau ein myfyrwyr Safon Uwch yn newyddion gwych, a hoffwn longyfarch myfyrwyr a staff ein hysgolion ar y fath lwyddiant.

 “Maent yn amlwg wedi gweithio’n galed iawn, ac mae’n anhygoel gweld y fath welliant mewn cynifer o ysgolion Casnewydd. Da iawn i bawb, gan gynnwys y rhieni am gefnogi eu plant ar adeg o straen.”

Mae’r data amodol yn dangos cynnydd yng nghanran y disgyblion sy’n cyflawni trothwy Lefel 3 (2 Safon Uwch A*-E neu gyfatebol) i 97.2 y cant o 96.5 y cant y llynedd.  Cyfartaledd Cymru y llynedd oedd 97.1 y cant.

Mae’r canlyniadau hefyd wedi dangos cynnydd cyffredinol yng Nghasnewydd o ddisgyblion sy’n pasio ag o leiaf 3 A*/A i 13.4% o 9.5 y cant y llynedd. Cyfartaledd Cymru y llynedd oedd 10.5 y cant.

Gwelwyd cynnydd hefyd yng nghanran y disgyblion sy’n cyflawni o leiaf 3 gradd A*-C i 57.1 y cant o 51.9 y cant y llynedd. Cyfartaledd Cymru y llynedd oedd 54.7 y cant.

Un o’r canlyniadau gorau oedd y cynnydd sylweddol yng nghanran y myfyrwyr sy’n cyflawni graddau A* neu A Safon Uwch yn Ysgol Uwchradd Llyswyry, yn cynyddu o 3.9 y cant y llynedd i 24 y cant eleni – arbennig.

Dyma rai ysgolion eraill a welodd welliant o’u canlyniadau y llynedd:

*         Ysgol Basaleg wedi cynyddu canran y disgyblion sy’n cyflawni tair A*/A gan un y cant i 17 y cant

*         Ysgol Gyfun Caerllion wedi cynyddu canran y disgyblion sy’n cyflawni tair A*/A gan wyth pwynt canrannol i 22.4 y cant a chynyddu canran y graddau A*/A Safon Uwch sy’n cael eu cyflawni o 21 y cant i 36.1 y cant ac

*         Ysgol Uwchradd Casnewydd wedi cynyddu canran y graddau A*/A Safon Uwch sy’n cael eu cyflawni o 8.4 y cant i 16 y cant.

Gwelodd Ysgol Uwchradd Sant Julian ac Ysgol Uwchradd Sant Joseff welliant mewn perfformiad – gydag Ysgol Uwchradd Sant Julian yn gwella’r perfformiad trothwy Lefel 3 o 90.3 y cant i 99 y cant ac Ysgol Uwchradd Sant Joseff yn gwella’r perfformiad trothwy Lefel 3 i 100 y cant.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau, y Cynghorydd Gail Giles: “Mae’r canlyniadau hyn yn rhagorol. Hoffwn longyfarch pawb ar y fath lwyddiant. Da iawn wir.”

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.