Newyddion

Y Pencampwr Geraint Thomas yn anelu am Gasnewydd yn Ras Taith Prydain

Wedi ei bostio ar Thursday 16th August 2018

Cyhoeddodd Tîm Sky heddiw y bydd Enillydd y Tour de France, Geraint Thomas, ac enillydd y Giro d'Italia, Chris Froome, yn beicio gyda'i gilydd yn ras y Taith Prydain OVO Energy am y tro cyntaf ers 2009.

Casnewydd fydd yn croesawu diwedd y cymal cyntaf yn y digwyddiad proffil uchel hwn ar brynhawn Dydd Sul 2 Medi. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.newport.gov.uk/events

Bydd y ddau a orffennodd yn gyntaf a thrydydd yn y Tour de France ym mis Gorffennaf, yno ar ddechrau'r ras sef digwyddiad chwaraeon blynyddol mwyaf gwledydd Prydain ym Mharc Gwledig Pen-bre, Sir Gâr.

Yn ymuno â nhw fydd yr Iseldirwr Wout Poels, sydd ei hun wedi ennill tri chymal o'r ras hon, gan gynnwys y cymalau terfyn bryniog yn Hartside a Haytor. Cyhoeddir gweddill tîm Sky maes o law.

Dywedodd Cyfarwyddwr y Ras Mick Bennett: "Mae'n fraint ac anrhydedd y bydd Geraint Thomas a Chris Froome yn arwain Tîm Sky yn Ras Taith Prydain OVO Energy eleni.

"Mae cael dau o feicwyr gorau erioed Prydain - pencampwyr presennol y Tour de France a'r Giro d'Italia dim llai - yn cystadlu yn y ras yn newyddion ffantastig i'n cefnogwyr, a fydd yn tyrru i'r strydoedd i gael cipolwg ar eu harwyr.

"Fe welsom y derbyniad anhygoel a dderbyniodd Geraint yn y dathliadau croeso adref yng Nghaerdydd yr wythnos ddiwethaf - mae'r ffaith y bydd y cymal cyntaf ar Ddydd Sul 2 Medi yn cael ei gynnal yn gyfan gwbl yng Nghymru yn golygu y bydd y wlad gyfan yn gallu dathlu ei lwyddiant anhygoel yn Ffrainc yr haf hwn.

Am yr ail flwyddyn o'r bron, bydd pob cymal o'r ras yn cael ei ddangos yn fyw a llawn ar ITV4. Yn ymuno â'r cyflwynydd Matt Barbet fydd y cyn feiciwr proffesiynol Yanto Barker a Rebecca Charlton, gyda sylwebaeth gan Marty MacDonald a Rob Hayles. Hefyd bydd Eurosport yn rhoi sylw byw bob dydd i'r ras.

Digwyddiad beicio ffordd pwysicaf British Cycling yw Taith Prydain OVO Energy, gan roi'r cyfle i gefnogwyr weld timau a beicwyr gorau'r byd yn cystadlu ar garreg eu drws rhwng Dydd Sul 2 a Dydd Sul 9 Medi 2018.

 

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.