Canlyniadau Lefel A
Wedi ei bostio ar Thursday 16th August 2018
Mae Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd Debbie Wilcox wedi diolch i fyfyrwyr, staff ysgol a theuluoedd am eu gwaith caled sydd wedi arwain at ganlyniadau Lefel-A heddiw.
"Carwn longyfarch y rheiny sydd wedi cyrraedd neu fynd y tu hwnt i'w disgwyliadau yn eu lefel A neu gymwysterau eraill.
"Mae hefyd yn bwysig cysuro y rheiny a all fod yn grac a siomedig na chawsant y canlyniadau roeddent eu heisiau. Mae cymorth ar gael i'w tywys nhw tuag at ddod o hyd i gyfleoedd a fydd yn eu helpu nhw i gyflawni eu hamcanion. Gobeithio felly y dônt i sylweddoli bod hyn wedi bod yn rhwystr bach ar draws eu llwybr ac nid yn rhoi stop llwyr ar eu potensial."
"Dymunaf y gorau ar gyfer y dyfodol i bob myfyriwr wrth iddynt symud at y cam nesaf yn eu bywydau, boed hynny ym myd addysg neu ym myd gwaith."
Mae Cymru ar hyn o bryd yn mynd trwy gyfnod o newid o ran y modd y defnyddir mesurau perfformio yn y system atebolrwydd.
Un agwedd ar y newid hwn yw'r modd y mae'r GCA, Gwasanaeth Cyflawniad Addysg Casnewydd a phedwar cyngor arall, yn adrodd ar ganlyniadau rhanbarthol a chenedlaethol.
Dywedodd y Cynghorydd Wilcox: "Yn ystod y blynyddoedd gynt, mae ffigyrau heb eu cadarnhau o un bwrdd arholi wedi eu rhyddhau ond ni chaiff y canlyniadau llawn eu cadarnhau tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn disgwyl cyhoeddi'r canlyniadau hynny, pan fônt ar gael, ar ei wefan a bydd yn annog ysgolion unigol i gyhoeddi eu canlyniadau eu hunain ar eu gwefannau nhw."
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Gail Giles: "Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr ar draws y rhanbarth sydd wedi gweithio mor galed i ennill Lefel A neu gymhwyster cyfatebol. Does dim dwywaith y bydd yr astudiaethau hyn yn eu paratoi ar gyfer y bennod nesaf yn eu gyrfaoedd, boed hynny yn y Brifysgol neu ym myd gwaith.
"Carwn hefyd gymryd y cyfle hwn i gydnabod cefnogaeth ac ymrwymiad cyrff llywodraethu, penaethiaid, athrawon, staff ysgol, rhieni a gofalwyr yn y canlyniadau heddiw. Ni ddylid tanbrisio'r ymdrechion sydd wedi mynd at y canlyniadau hyn. Dymunwn y gorau i'r holl ddisgyblion ar gyfer y dyfodol."