Newyddion

Marathon llwyddiannus yn y ddinas

Wedi ei bostio ar Tuesday 1st May 2018
Marathon 2018

Mae cyfnod rhedeg am bellter hir newydd ohoni yng Nghymru ar ôl i Farathon a 10K ABP Casnewydd Cymru fod yn llwyddiant ysgubol i gyfranogwyr, gwylwyr a’r ddinas.

Roedd marathon newydd y wlad yn llwyddiant mawr wrth i filoedd o redwyr fwynhau amodau marathon perffaith ac atmosffer tanbaid yng nghanol y ddinas cyn dechrau ar y cwrs fflat 26.2 milltir ger yr Afon Wysg. Gwnaeth 2,600 o bobl eraill wneud hanes drwy redeg ail ran y gyfres 10K Run 4 Wales - ras 10K ABP Casnewydd Cymru - o amgylch tirnodau eiconig gan gynnwys Pont Gludo Casnewydd. 

Roedd cannoedd o gefnogwyr yn gefn i’r rhedwyr ar strydoedd Casnewydd, gan greu sŵn mawr ym mhentrefi hyfryd Y Redwig a Magwyr, Yr enw cyntaf yn llyfrau hanes Marathon ABP Casnewydd Cymru oedd James Carpenter, sy’n rhedeg i Neath Harriers. Torrodd yn rhydd o’r criw gyda thri milltir i fynd i ennill y ras gydag amser o 2 awr, 33 munud a 32 eiliad.

Chwalodd Natasha Cockram ei hamser cyflymaf gan dros 5 munud a hi oedd y menyw cyntaf i groesi'r linell orffen gydag amser o 2:44:58, yn gwneud yn well na Emma Set-to a Carla Swithenbank cyn i gannoedd o redwyr gwblhau her oes ger lannau’r afon. 

Enillydd y ras 10K ABP Casnewydd Cymru oedd Ieuan Thomas, a dorrodd y trothwy hanner awr gydag amser o 29.43 dim ond 10 diwrnod ar ôl dychwelyd o Gemau'r Gymanwlad ar Arfordir Aur Awstralia. Enillodd Rachel Felton y ras i fenywod gydag amser o 35.04.

Dywedodd Prif Weithredwr Run 4 Wales, Matt Newman: “Mae Marathon ABP Casnewydd Cymru cyntaf wedi bod yn llwyddiant ysgubol ym mhob agwedd ar y diwrnod. Roedd yr edrychiad a'r atmosffer yn y ddinas yn wych, y teimlad o ddigwyddiad mawr fel hyn oedd yr union beth yr oeddem wedi'i ddychmygu wrth gynllunio'r digwyddiad gyda Chyngor Dinas Casnewydd a Llywodraeth Cymru.

“Mae nifer y rhedwyr ar y diwrnod yn deyrnged i'r digwyddiad, ac maent wedi cael profiadau ardderchog. Yr adborth cychwynnol yw bod y cyrsiau’n wych a bod llwyth o bobl wedi torri recordiau personol, felly byddwn yn ceisio adeiladu ar hynny.

“Roedd ychydig o fân broblemau, ond mae hynny yn deillio o ba mor enfawr oedd y digwyddiad yn ei flwyddyn cyntaf, ond mae wedi bod yn wych.

“Mae’r cymorth cychwynnol gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru ar gyfer tair blynedd, ond mae ychydig fel Hanner Marathon Caerdydd a gafodd ychydig o gefnogaeth yn y blynyddoedd cyntaf cyn dod yn ddigwyddiad poblogaidd iawn yng nghalendr chwaraeon Cymru – hyderaf y bydd Marathon a 10K ABP Casnewydd Cymru yn gallu gwneud yr un peth.”

Mae disgwyl i’r marathon cyntaf yn y ddinas fod wedi cyfrannu oddeutu £1.1miliwn at yr economi leol gan arddangos beth all dinas Casnewydd ei gynnig i'r byd. Ni fyddai cynnal y digwyddiad yn bosibl heb gefnogaeth y Prif Noddwyr, ABP, sy’n falch iawn o fod wedi gallu cyfrannu at ddigwyddiad fydd yn cael effaith hynod bositif ar y gymuned leol.

Mae'r Partneriaid Strategol, sef Llywodraeth Cymru a Chyngor Dinas Casnewydd, wedi addo cefnogi’r digwyddiad – y mae disgwyl iddo dyfu bob blwyddyn – tan o leiaf 2020.

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, oedd yn bresennol i ddechrau'r ras: “Roeddwn yn falch iawn o gael bod yno i ddechrau'r Marathon ABP Casnewydd Cymru cyntaf.   Llongyfarchiadau i bawb wnaeth redeg heddiw am eu hymdrechion ffantastig, nid yn unig wrth gwblhau’r ras ond hefyd am eu holl waith yn codi arian.   Hoffwn ddiolch i’r gwirfoddolwyr, y trefnwyr a’r cefnogwyr am wneud Marathon ABP Casnewydd Cymru yn achlysur i’w gofio.  Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi’r ras, gan ddangos unwaith eto bod Cymru’n lleoliad delfrydol ar gyfer prif ddigwyddiadau chwaraeon.”

Meddai’r Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: “Mae heddiw wedi bod yn ddiwrnod anhygoel i’r ddinas. Mae’r gefnogaeth i’r digwyddiad wedi bod yn wych – o redwyr a’u teulu a ffrindiau, preswylwyr Casnewydd ar y strydoedd, i'r gwirfoddolwyr. 

“Marathon a 10K ABP Casnewydd Cymru yw’r diweddaraf yn ein rhaglen ddigwyddiadau gynyddol yn arddangos ein dinas i’r byd, ac unwaith eto rydym wedi dangos ein bod ni'n lleoliad gwych ar gyfer digwyddiadau mawr. Edrychaf ymlaen yn fawr iawn at gynnal digwyddiadau yn y dyfodol fydd yn rhoi hwb pellach i economi a phroffil y ddinas.”

Mae disgwyl i Farathon ABP Casnewydd Cymru fod wedi codi miloedd i elusennau ac achosion da, gan gynnwys un o’r Prif Bartneriaid Elusennol, NSPCC.

Dywedodd Des Mannion, Pennaeth y Prif Bartner Elusennol NSPCC Cymru: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i bawb a redodd Marathon ABP Casnewydd Cymru i godi arian i NSPCC ac sydd wedi helpu i godi arian hanfodol i ni yn ein hymdrechion i frwydro dros blentyndod pawb.

“Mae’r NSPCC yn falch iawn o gael ein dewis fel prif bartner elusennol Marathon ABP Casnewydd Cymru a bydd pob ceiniog a gafodd ei hel yn gwneud gwahaniaeth i'n gwaith yng Nghymru ac yn cefnogi ystod o wasanaethau y mae’r elusen yn eu cynnig.

“Rydym yn falch iawn bod y marathon wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac yn gobeithio bod pawb a gymerodd ran yn y ras cyntaf wedi mwynhau'r diwrnod."

Gall rhedwyr, sydd am fod yn rhan o’r bwrlwm gyda blwyddyn gyfan o hyfforddi, rhag-gofrestru yma.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.