Llesiant Casnewydd yn brif flaenoriaeth i bartneriaeth
Wedi ei bostio ar Friday 20th April 2018
Heddiw cymeradwyodd Cyngor Dinas Casnewydd gynllun pum mlynedd i wneud y ddinas yn lle gwell ar gyfer y rheiny sy'n byw ac yn gweithio yno.
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Casnewydd yn Un yn gorff statudol sy'n cynnwys y Cyngor, Cyfoeth Naturiol Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Mae partneriaid gwadd hefyd yn sefyll ar y BGC gan gynnwys Coleg Gwent, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent a Heddlu Gwent.
Yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae'r cynllun yn nodi blaenoriaethau'r bwrdd ar gyfer y pum mlynedd nesaf i wella llesiant cymdeithasol, diwylliannol, economaidd ac amgylcheddol Casnewydd nawr ac yn y dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd a chadeirydd BGC Casnewydd yn Un: "Mae gan y ddinas lawer i fod yn falch ohono, o gynnal digwyddiadau chwaraeon a digwyddiadau rhyngwladol mawr i ddatblygiadau adfywio sydd wedi ennill gwobrau.
"Mae hefyd yn gartref i sawl busnes technoleg arloesol a chyflogwyr gwasanaethau cyhoeddus mawr ac mae ganddi enw da sy'n tyfu o ran twf economaidd.
"Fodd bynnag, mae Casnewydd yn dal i wynebu heriau, sy'n cynnwys tlodi ac anfantais, sydd yn dal i effeithio ar rai o'n trigolion.
"Mae'n rhaid i Casnewydd yn Un fynd i'r afael â'r materion hynny, yn ogystal â lefelau sgiliau isel, trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, i wneud y ddinas yn lle gwell i bawb trwy ddenu a chadw pobl a chyflogwyr.
"Byddwn yn gweithio'n galed i sicrhau bod gan Gasnewydd swyddi da, cyfleusterau addysgol gwych, tai o ansawdd, mannau agored deniadol, trafnidiaeth o'r radd flaenaf, gwasanaethau cryf a chelfyddydau, chwarae a diwylliant sy'n ffynnu.
"I wneud hyn, bydd yr holl bartneriaid ar y bwrdd yn cydweithio, a chynnwys ein cymunedau, i sicrhau ein bod yn cyflawni ein huchelgeisiau."
Gellir darllen y cynllun llawn yn www.onenewportlsb.newport.gov.uk