Newyddion

Marathon Casnewydd – wythnos i fynd!

Wedi ei bostio ar Friday 20th April 2018

Ddydd Sul 29 Ebrill bydd Marathon a 10K cyntaf ABP Casnewydd yn croesawu rhyw 10,000 o redwyr i’r ddinas, gyda rhedwyr o lefydd mor bell i ffwrdd â Chanada, Algeria a Japan yn mynychu.

 Mae’r digwyddiad chwaraeon mawr hwn yn debygol o ddenu £1.1 miliwn i'r economi leol, tynnu sylw at ganol y ddinas ar ei newydd wedd a chodi hyd at £1 miliwn i achosion da. 

Bydd y Marathon, y 10K a ras y teulu yn cychwyn am 9am, gyda gweithgareddau ac adloniant ym mhentref y digwyddiad ger Theatr Glan-yr-afon. 

Bydd adloniant, gweithgareddau chwaraeon a cherddoriaeth fyw ar gyfer y teulu cyfan. Bydd hefyd ardal i roi cynnig ar gamp newydd, ardal i noddwyr ac arddangoswyr a gallwch hyd yn oed gael eich tylino! 

Mae disgwyl i ryw 30,000 o gefnogwyr a gwylwyr ddod ynghyd, felly os nad ydych chi’n rhedeg, mae croeso i chi ddod i ymuno yn yr hwyl a chefnogi'r rhedwyr. Yn ogystal ag adloniant ym mhrif bentref y ras, bydd chwe man adloniant arall ar hyd llwybr y ras, a mannau gwych i wylio’r cyfan, gan gynnwys y Bont Gludo. 

Mae Friars Walk hefyd yn cefnogi'r digwyddiad a bydd ei opsiynau bwyta a hamdden gwych ar gael i bawb fel arfer. 

I hwyluso’r trefniadau ac er diogelwch y rhedwyr, bydd angen cau rhai heolydd ar hyd llwybr y ras. Bydd heolydd yn dechrau cau yn ystod oriau mân bore Sul 29 Ebrill – mae mapiau a manylion llawn ar gael ar-lein. 

Mae preswylwyr a busnesau yr effeithir arnynt eisoes wedi derbyn llythyrau yn nodi’r manylion llawn ac mae nifer o ddigwyddiadau gwybodaeth hefyd wedi eu cynnal. 

Mae’r rhedwyr wedi derbyn gwybodaeth am opsiynau parcio a bydd system parcio a theithio i chi ei harchebu o flaen llaw ar waith. Bydd meysydd parcio Friars Walk, Glan-yr-afon, Park Square ac Emlyn Street ar gau, ond bydd meysydd parcio eraill yng nghanol y ddinas gan gynnwys Ffordd y Brenin ar agor. Cofiwch am yr heolydd fydd ar gau wrth gynllunio eich siwrneiau. 

Bydd cau’r A4042 Ffordd y Brenin yn effeithio ar rai safleoedd bws. Mae manylion llawn ar gael ar-lein a gan weithredwyr y gwasanaethau bws lleol. 

Run4Wales, y tîm y tu ôl i ddigwyddiadau megis Hanner Marathon Caerdydd a Felothon Cymru, sy'n darparu'r digwyddiad, a fu'n bosibl diolch i gefnogaeth Porthladdoedd Prydeinig Cysylltiedig (ABP), Cyngor Dinas Casnewydd a Llywodraeth Cymru. 

I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.newport.gov.uk/marathon neu www.newportwalesmarathon.co.uk

 

 

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.