Cogyddion lleol gorau ar y fwydlen mewn gŵyl fwyd
Wedi ei bostio ar Wednesday 27th September 2017
Bydd y cogyddion lleol gorau yn dangos eu sgiliau coginiol yng ngŵyl Bwyd a Diod Casnewydd eleni a noddir gan Tiny Rebel. Bydd arddangosiadau gan gogyddion yn cael eu cynnal drwy gydol y dydd – i fyny'r grisiau ym Marchnad Casnewydd ac yn ardal y dderbynfa yn swyddfeydd Grŵp Pobl ar ben yr Heol Fawr.
Y cyntaf ar y llwyfan fydd Hywel Jones, sy’n Gogydd Gweithredol yn Restaurant Hywel Jones a The Brasserie yng Ngwesty Lucknam Park. Bu Hywel yn noddwr Gŵyl Fwyd Casnewydd ers yr ŵyl gyntaf yn ôl yn 2010 ac mae wedi helpu’r ŵyl i dyfu dros y saith mlynedd diwethaf.
Lle bo modd, mae Hywel yn defnyddio cynhwysion lleol gan gynnwys perlysiau o ardd berlysiau helaeth Lucknam Park. Mae wedi meithrin perthynas bersonol â'i gyflenwyr lleol gan sicrhau bod ganddo gynhwysion o ansawdd uchel sydd bob amser yn adlewyrchu'r tymor.
Ym mis Tachwedd 2012, dan arweiniad Hywel, agorodd y gwesty ysgol goginio newydd sbon i gynnig amrywiaeth eang o gyrsiau i'r sawl sy'n mwynhau coginio.
Mae’r cyrsiau’n amrywiol iawn, gan gynnwys bwyd stryd India, bwyd Prydain Fawr, prydau'r tymor, cyrsiau hanner diwrnod i blant a sesiwn An Evening with Hywel, a fydd yn cynnwys sgwrs gan Hywel wrth iddo baratoi bwydlen pum cwrs.
Ym mis Ebrill 2017, cafodd bwyty Michelin y Park, ei ail-lansio dan yr enw Restaurant Hywel Jones yn Lucknam Park. Mae’r arlwy newydd yn cynnwys dewis o dair bwydlen flasu wyth cwrs a bwydlen à la carte tri chwrs.
Cynhwysion y tymor a chynnyrch lleol fydd dan sylw yn y Fwydlen Flasu, a bydd y Fwydlen Flasu ‘Unigryw’ yn cynnwys detholiad o hoff brydau Hywel. Bwydlen flasu lysieuol fydd y trydydd dewis.
Mae’r bwyty, sydd wedi ei leoli yn ystafell ddawns wreiddiol y tŷ, wedi cael ei adnewyddu mewn modd sydd gydnaws ag arddull glasurol yr ystafell, ac mae gosodiad newydd y byrddau yn ychwanegu elfen fwy cyfoes.
Dywedodd Hywel Jones, “Ers cyrraedd Lucknam Park yn 2004, mae'r gwesty wedi dod yn rhan fawr a phwysig o’m bywyd. Mae bob amser wedi bod yn fraint gweithio mewn amgylchedd mor brydferth gyda thîm sydd mor dalentog, ac rydw i bob amser yn ymdrechu i baratoi a gweini bwyd o'r safon orau. Mae lansiad Restaurant Hywel Jones yn Lucknam Park yn anrhydedd fawr i mi ac mae’n garreg filltir yn fy ngyrfa. Rydw i’n edrych ymlaen at rannu’r daith gyffrous hon”.
Rydym yn edrych ymlaen at weld Hywel yng ngŵyl fwyd eleni lle y bydd hefyd yn beirniadu'r gystadleuaeth TeenChef am 11am ym Mharth Casnewydd Nawr ym Marchnad Casnewydd.