Newyddion

Ymdrech ailgylchu wefreiddiol ysgolion Casnewydd

Wedi ei bostio ar Friday 29th September 2017

Casglodd ysgolion Casnewydd ychydig dros dunnell o fatris rhwng Ionawr a Mehefin yn Her Ailgylchu Batris 2017.

Nod y gystadleuaeth flynyddol, sy'n cael ei chynnal mewn partneriaeth gan Gyngor Dinas Casnewydd a Llwyfan Ailgylchu Ewropeaidd y DU (ERP) yw annog pobl ifanc i gasglu batris i'w hailgylchu o'r cartref a'r ysgol.

Enillwyr y gystadleuaeth eleni oedd Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon a fydd yn cael tystysgrifau a thalebau rhodd gan noddwr y gystadleuaeth, ERP UK. Yn ail roedd Ysgol Iau yr Eglwys yng Nghymru Malpas ac Ysgol Gynradd Glan Wysg.

Bydd pob ysgol a gymerodd ran yn yr her yn cael tystysgrif am ei hymdrechion.

Meddai'r Cynghorydd Roger Jeavons, Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros y Strydlun: "Am ymateb gwych gan ein hysgolion. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran. Mae'r ailgylchwyr ifanc hyn yn helpu i wneud gwahaniaeth go iawn, nid dim ond i Gasnewydd a Chymru ond i ddyfodol y blaned.

  "Hoffwn ddiolch iddynt, a'u ffrindiau a'u teuluoedd am gefnogi'r ymdrechion.

  "Mae hi'n Wythnos Ailgylchu ac unwaith eto rydym am annog ein preswylwyr i ailgylchu cymaint â phosibl.

  "Mae'n siŵr y synnwch o weld faint o eitemau y gellir eu hailgylchu a'u hailddefnyddio. Er enghraifft, mae Ailgylchu Dros Gymru wedi cyfrifo, pe bai pawb yng Nghasnewydd yn ailgylchu un can ychwanegol, y byddai hyn yn arbed digon o ynni i bweru ysgol gynradd gyffredin am bron i ddeufis."

I gael rhagor o wybodaeth ewch i http://www.recycleforwales.org.uk/cy

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.