Newyddion

Statws Dinas Ystyriol o Ddemensia i Gasnewydd

Wedi ei bostio ar Thursday 28th September 2017
dementia friendly city presentation small - Sept 2017

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn arwain y gad wrth godi ymwybyddiaeth o ddemensia gan ddatblygu cymorth i bobl sy’n byw gyda demensia a'u gofalwyr, a chan annog arferion ystyriol o ddemensia ledled y ddinas.   

I gydnabod hynny, derbyniodd Maer Casnewydd, y Cynghorydd David Fouweather, achrediad Dinas Ystyriol o Ddemensia ffurfiol gan Gymdeithas Alzheimer mewn cyfarfod y Cyngor llawn.

Yn y seremoni wobrwyo, dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: “Mae’n debygol y bydd demensia’n  effeithio ar bob un ohonon ni ar ryw adeg.  Buon ni'n gweithio'n agos gyda'n partneriaid a sefydliadau ledled y ddinas i godi ymwybyddiaeth o'r broblem bwysig hon ac i hybu newidiadau i greu'r cymorth sydd ei angen nawr ac yn y dyfodol.

“Mae aelodau o Gasnewydd yn Un, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus y ddinas, hefyd wedi ymuno yn yr ymdrech ac maen nhw'n cydnabod bod modd i ni gael effaith fwy o lawer drwy gydweithio mewn ffordd sydd wedi'i chydlynu."

Mae’r boblogaeth yn heneiddio, ac mae hynny’n creu heriau a chyfleoedd newydd mewn nifer o wasanaethau. Mae Demensia yn bryder sylweddol a nododd un o bob 14 o bobl sy'n hŷn na 65 oed eu bod nhw’n byw gyda'r cyflwr. Mae Cymdeithas Alzheimer, sy’n rhan o Weledigaeth Dementia Genedlaethol Cymru, yn amcangyfrif y bydd nifer y bobl sydd â demensia ledled Cymru’n cynyddu 31 y cant, a 44 y cant mewn rhai ardaloedd gwledig.   

Nid yw demensia’n effeithio ar yr unigolyn sy’n dioddef y cyflwr yn unig – mae hefyd yn gallu cael effaith sylweddol ar aelodau o’r teulu sy'n gofalu am anwyliaid.  Bydd yn effeithio ar bob aelod o'r gymdeithas ar ryw adeg – os nad y teulu agos, bydd yn effeithio ar aelodau o’r teulu estynedig neu ffrindiau.

Er mwyn ennill y dyfarniad, bu'n rhaid i'r Cyngor fodloni saith maen prawf:

  1. Defnyddio dull partneriaeth effeithiol - Mae Casnewydd yn Un wedi rhoi blaenoriaeth i'r gwaith o ddod yn Ddinas Ystyriol o Ddemensia ym mhob maes gwaith.
  2. Pencampwyr demensia – y Cynghorwyr Paul Cockeram a Kate Thomas yw’r pencampwyr o blith  aelodau etholedig y Cyngor.
  3. Codi ymwybyddiaeth – Mae mwy na 2,000 o bobl wedi bod mewn sesiynau ymwybyddiaeth gan y Cyfeillion Demensia.
  4. Gwrando ar farn pobl sy’n byw gyda demensia – drwy Gymdeithas Alzheimer, mae’r Cyngor wedi datblygu cysylltiadau gyda chaffis cof ledled y ddinas.
  5. Hyrwyddo camau i godi ymwybyddiaeth o ddemensia – mae’r Cyngor wedi cyhoeddi nifer o gylchlythyron a thudalennau gwe ar gyfer y cyhoedd ac mae wedi hwyluso gwefan ddemensia newydd ar gyfer y rhanbarth.
  6. Ffocws ar flaenoriaethau – mae grŵp gweithredu lleol wedi cael ei ffurfio i roi camau ar waith.
  7. Adrodd cynnydd – mae’r Cyngor yn adrodd yn ôl i Gymdeithas Alzheimer yn rheolaidd.

Dros y flwyddyn ddiwethaf bu cynnydd sylweddol o ran codi ymwybyddiaeth o ddemensia, annog sefydliadau i fabwysiadu arferion sy’n ystyried pobl sydd â demensia, a rhoi cymorth i bobl sydd â demensia a’u gofalwyr:

  • Mae Heddlu Gwent yn hyfforddi pob swyddog heddlu yng Nghasnewydd ac yn cyflwyno protocol pobl coll newydd
  • Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Joseff yw’r ysgol gyntaf yng Nghymru i fod yn Ddemensia Gyfeillgar
  • Mae nifer o gymdeithasau tai wedi cael achrediad demensia
  • Mae holl griwiau tân y sir yn cael hyfforddiant ymwybyddiaeth Cyfeillion Demensia
  • Mae gyrwyr bws Cludiant Casnewydd a staff Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy a Natwest Bank yn cael hyfforddiant ymwybyddiaeth
  • Clwb Pêl-droed Casnewydd yw’r cyntaf yng Nghymru i gyflawni’r statws.

Dywedodd y Cynghorydd Wilcox: “Nid diwedd ein taith yw’r wobr hon – bydd lle i wella o hyd. Bydd hyn yn parhau’n flaenoriaeth ac yn rhedeg drwy ein cynlluniau lles a chorfforaethol. Byddwn hefyd yn cyflwyno rhaglen ymwybyddiaeth Cyfeillion Demensia ar-lein fel bod staff yn ymwybodol o ddemensia, ac mae gwasanaeth llyfrgell Casnewydd a Casnewydd Fyw hefyd yn gweithio tuag at y nod hwn.”

Dywedodd Phil Diamond, arweinydd demensia tîm trawsnewid Gwent: “Mae Cyngor Casnewydd a Casnewydd yn Un yn dangos esiampl yn y ddinas. Maent wedi gwneud cynnydd gwych yn codi ymwybyddiaeth o anghenion y rheini yr effeithir arnynt gan ddemensia ac yn annog sefydliadau a busnesau eraill i ddilyn y drefn.”

I gael rhagor o wybodaeth am fod yn gyfaill demensia ewch i www.dementiafriends.org.uk

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch leihau eich risg o ddemensia ewch i www.wales.nhs.uk/sitesplus/866/opendoc/266630  

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch gyfrannu yn eich ardal leol, cysylltwch â

[email protected]

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.