Newyddion

Cyngor yn bwriadu adeiladu Casnewydd well dros y pum mlynedd nesaf

Wedi ei bostio ar Thursday 14th September 2017

Mae Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd wedi dangos ei gefnogaeth am ddogfen a fydd yn helpu i siapio’r cyngor a’r ddinas dros y pum mlynedd nesaf.

Mae’r cynllun corfforaethol newydd yn nodi sut y mae’r cyngor yn bwriadu ‘Adeiladu ar Lwyddiant’ ac ‘Adeiladu Casnewydd Well’, gan ganolbwyntio ar swyddi a’r economi, addysg a sgiliau, tegwch a chydraddoldeb, cydlyniad a diogelwch cymunedol, yr amgylchedd, trafnidiaeth, diwylliant a llesiant cymdeithasol.

Yn bwysig iawn, mae’r cynllun yn seiliedig ar weithredoedd gwirioneddol ac mae’n amlinellu 20 ymrwymiad ar gyfer newid gan gynnwys gwaith prototeip i sefydlu parthau buddsoddi cymunedol sy’n trawsnewid gwasanaethau ym mhump o ardaloedd fwyaf difreintiedig Casnewydd; datblygu ein gwaith fel dinas sy’n ddemensia gyfeillgar; cryfhau gofal yn y gymuned; datblygu ysgolion newydd o’r radd flaenaf; gwella cyrhaeddiad addysgol; gwella cynnig diwylliannol bywiog y ddinas; datblygu canol y ddinas ymhellach; lleihau achosion o barcio anghyfreithlon; datblygu hybiau sy’n canolbwyntio ar y gymdogaeth ac ehangu adnoddau personol ar-lein.

Wedi’u cyfuno, bydd y camau hyn yn helpu i ddarparu:

  • Cymunedau gwydn
  • Dinas ffyniannus
  • Pobl uchelgeisiol
  • Cyngor wedi’i foderneiddio

Drwy genhadaeth a gwerthoedd y sefydliad, mae’r cynllun hefyd yn dangos sut y bydd y cyngor yn parhau i weithio i 'wella bywydau pobl'. Mae hefyd yn ystyried sut y gellir defnyddio adnoddau i'r eithaf ac yn cydnabod bod angen mynd i’r afael ag achosion problemau yn hytrach na rheoli’r canlyniadau’n unig.

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: “Cytunwyd ar y cynllun corfforaethol diwethaf yn 2012 gydag ymrwymiad i sicrhau dinas, decach, wyrddach, iachach a diogelach sy'n dysgu, gweithio ac yn ofalgar. Er gwaethaf cyfnod o gyni sylweddol ar gyfer gwasanaethau llywodraeth leol, drwy reoli gofalus, mae’r weinyddiaeth wedi sicrhau y gwireddwyd yr addewidion hyn.

“Mae ein hysgolion wedi cyflawni rhai o’r canlyniadau gorau erioed. Rydym yn adeiladu ysgolion newydd ac yn ailddatblygu rhai eraill. Rydym wedi cynyddu cyfleoedd ar gyfer busnesau a gwaith ac rydym wedi dechrau ar y gwaith o drawsnewid canol y ddinas gyda datblygiad Friars Walk. Rydym ni wedi adfer y rhaglen sbwriel a gwastraff Balchder yng Nghasnewydd ac wedi sefydlu mentrau dim goddefgarwch o ran tipio anghyfreithlon ar draws y ddinas. Rydym wedi gweithio gyda’n partneriaid ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i fynd i'r afael â phroblemau o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol a throsedd ar draws y ddinas.

“Er gwaethaf yr heriau ariannol parhaus, mae angen i ni fod yn gadarnhaol yn y dyfodol a chael cynlluniau uchelgeisiol. Mae’r cynllun corfforaethol newydd yn nodi sut yr ydym ni’n bwriadu gwneud hyn ac yn dangos bod ffyniant ariannol a chyfiawnder cymdeithasol, sef y gwerthoedd y credwn y cânt eu rhannu gan y rhan fwyaf yn ein dinas, wrth wraidd ein gwaith."

Yn ogystal â chanolbwyntio ar 'Adeiladu ar Lwyddiant' ac 'Adeiladu Casnewydd Well', mae'r cynllun hefyd yn nodi sut y bydd y cyngor yn bodloni'r cyfrifoldebau statudol a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ac yn cynnwys amcanion llesiant y cyngor y cytunwyd arnynt gan y Cabinet yn gynharach eleni.

Nod y Ddeddf ydy gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’n gwneud i gyrff cyhoeddus, megis y cyngor, ystyried effeithiau hirdymor penderfyniadau, gweithio’n well gyda phobl, cymunedau a gyda'i gilydd, ceisio atal problemau a gweithredu dull mwy cydlynol.

Mae’r cynllun corfforaethol yn rhan o fframwaith polisi’r cyngor. Bydd yn awr yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Craffu priodol a bydd angen iddo gael ei gymeradwyo'n ffurfiol a'i fabwysiadau gan y Cyngor llawn.

Dolen i’r adroddiad/cynllun

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.